Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Derbyniadau Ysgolion Gwneud cais am leoedd Meithrin, Derbyn ac Iau (Blwyddyn 3) ar gyfer Medi 2027

Gwneud cais am leoedd Meithrin, Derbyn ac Iau (Blwyddyn 3) ar gyfer Medi 2027


Summary (optional)
Gwybodaeth derbyniadau a ceisiadau ysgolion cynradd
start content

Dim ond os yw eich plentyn yn mynychu ysgol fabanod ar hyn o bryd ac y bydd angen symud i safle ysgol iau wahanol ym mis Medi 2026 y mae angen i chi wneud cais am le yn yr Adran Iau (Blwyddyn 3).

Mae ffurflenni cais y gellir eu hargraffu ar gael. Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir hefyd bostio copïcaled drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031.

Pwysig: Yn ogystal â llenwi'r Ffurflen Derbyniadau i Ysgolion Conwy hon, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen wybodaeth atodol (FfGA) ar gyfer yr ysgol o'ch dewis cyntaf os yw eich dewis cyntaf yn un o’r ysgolion isod. Mae'r ffurflen FfGA hon, ar gael i'w lawrlwytho ar ôl cwblhau Ffurflen Derbyniadau i Ysgolion Conwy:

  • Ysgol Bendigaid William Davies
  • Ysgol Bodafon
  • Ysgol Pen y Bryn
  • Ysgol San Sior
  • Ysgol St Joseph
  • Ysgol Y Plas

Y dyddiadau cau ar gyfer pob cais yw:

  • Ceisiadau Meithrin: 15 Chwefror 2027
  • Ceisiadau Derbyn ac Iau: 15 Ionawr 2027

Ni fydd cael lle yn y dosbarth Meithrin yn gwarantu lle yn y dosbarth Derbyn. Bydd angen i chi wneud cais eto am le yn y dosbarth Derbyn y flwyddyn nesaf.

Byddwch yn cael gohebiaeth ynglŷn â'ch cais am le yn yr ysgol erbyn:

  • Ceisiadau Meithrin: 5 Mai 2027
  • Ceisiadau Derbyn ac Iau: 16 Ebrill 2027

Ceisiadau hwyr: Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i geisiadau a geir erbyn y dyddiad cau yn y lle cyntafNi fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried tan ar ôl y rhai a geir erbyn y dyddiad cau, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r rheswm dros yr oedi wrth ddychwelyd eich ffurflen. Mae hyn yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Gall ceisiadau hwyr heb reswm da olygu siom os yw eich ysgol ddewisol yn llawn.

Ffurflenni cais argraffadwy (fformat PDF):

Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir hefyd bostio copïcaled drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031.

Dogfennau gwybodaeth ynghlyn a derbyniadau (fformat PDF):

 

end content