Cyflwynwch eich ffurflen gais erbyn 31 Hydref 2026.
Fe gewch chi wybodaeth am eich cais am le yn yr ysgol erbyn 1 Mawrth 2027.
Fe allwch chi hefyd lawrlwytho fersiwn o'r ffurflenni y gellir eu hargraffu drwy glicio yma.
Darllenwch os gwelwch yn dda - gwybodaeth bwysig
Yn ogystal â llenwi Ffurflen Derbyniadau Ysgolion Conwy, sef y ffurflen hon, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen gwybodaeth atodol ar gyfer eich dewis cyntaf o ysgol yn unig. Mae'r ffurflen gwybodaeth atodol ar gyfer yr ysgol rydych wedi'i ddewis ar gael ar ôl cwblhau Ffurflen Derbyniadau Ysgolion Conwy.
Ceisiadau hwyr
Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i geisiadau a ddaw i law erbyn y dyddiad cau yn y lle cyntaf. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried tan ar ôl y rhai sy'n cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r rheswm dros yr oedi wrth ddychwelyd eich ffurflen.
Mae hyn yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Gall ceisiadau hwyr heb reswm da olygu siom os yw eich ysgol ddewisol yn llawn.
Dyddiadau pwysig
Erbyn 1 Medi 2026
- Bydd ffurflenni cais ysgolion yn cael eu cyhoeddi a'r ffenestr ymgeisio ar-lein yn agor
- Mae ffurflenni i'w hargraffu ar gael uchod a gellir postio copïau caled ar gais, drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
- Mae llyfrynnau ar sut i wneud cais ar gael uchod
Erbyn 31 Hydref 2026
- Dyddiad cau ar gyfer pob cais i Ysgol Uwchradd
Erbyn 1 Mawrth 2027
- Bydd llythyrau'n cynnig neu'n gwrthod lle yn cael eu hanfon