Mae cymorth ariannol ar gael i helpu i sicrhau bod modd ailddefnyddio cartrefi gwag.
Cynllun Benthyciad Troi Tai'n Gartrefi
Benthyciadau di-log o hyd at £35,000 yr uned (yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ac ar fod yn gymwys) pan fydd eiddo/adeilad wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy.
Mae modd defnyddio’r benthyciad tuag at drawsnewid adeiladau masnachol neu fannau gwag uwchben siopau’n llety preswyl (yn amodol ar ganiatâd cynllunio). Mae’n rhaid i bob eiddo gael ei werthu neu ei osod ar ôl cwblhau’r gwaith.
Bydd y benthyciad yn cael ei sicrhau trwy bridiant cyntaf neu ail bridiant gyda’r Gofrestrfa Tir ac mae uchafswm cyfradd benthyciad-i-werth o 80%. Rhaid i unrhyw fenthyciwr roi eu caniatâd i’r pridiant.
Mae’n rhaid ad-dalu’r benthyciad o fewn 2 flynedd os yw’r eiddo’n cael ei werthu, neu 5 mlynedd os yw’n cael ei osod (fel llety preswyl yn unig – nid yw’r benthyciad hwn ar gael ar gyfer eiddo i’w osod fel llety gwyliau / tymor byr). Codir llog o 6% mewn achosion o ddiffygdalu (gan ôl-ddyddio i’r dyddiad lle rhyddhawyd y cyllid ar gyfer y benthyciad yn wreiddiol). Mae isafswm ffi ymgeisio o £295 (yn ddibynnol ar y swm a fenthycir).
Troi Mannau Gwag yn Lleoedd i Fyw
Cynllun Grant ‘Troi Mannau Gwag yn Lleoedd i Fyw’ Mae grantiau hyd at £25,000 (fesul uned) ar gael i eiddo gwag yng Nghanol Trefi Bae Colwyn, Llandudno neu Abergele/Pensarn. Gellir defnyddio'r Grant ar gyfer adnewyddu eiddo preswyl presennol, neu ar gyfer eiddo masnachol/mannau gwag y gellir eu troi'n llety preswyl (yn amodol ar y caniatâd cynllunio angenrheidiol).
Mae’n rhaid i eiddo fod wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac mae’n rhaid i'r perchennog gyfrannu at o leiaf 30% o gost y gwaith ei hun. Ar ôl cwblhau’r gwaith, mae’n rhaid prydlesu'r llety i'r Awdurdod Lleol am o leiaf 5 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu llety i aelwydydd digartref. Bydd rhent yn cael ei dalu yn ystod y cyfnod hwn ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol ar gyfer maint yr eiddo – Gweler Cynllun Prydlesu Sector Preifat Conwy.
Bydd y Grant yn cael ei gyflwyno drwy bridiant cyntaf neu ail bridiant gan y Gofrestrfa Tir (yn amodol ar gymhareb 'benthyciad a gwerth' o 80% ar y mwyaf) a'i ddileu ar ôl bodloni'r amodau am 5 mlynedd. Bydd angen i unrhyw Fenthyciwr gydsynio i'r Pridiant a'r Cytundeb Prydles arfaethedig. Ni fydd dim i'w ad-dalu os cedwir at y telerau ac amodau yn ystod y cyfnod ond bydd yn rhaid ad-dalu’r Grant yn llawn os na fydd yr amodau’n cael eu bodloni. Pan fydd y pum mlynedd wedi dod i ben, ni chyfyngir ar y math o denantiaeth na lefel y rhent, ond gellir dal ati â’r gwasanaethau rheoli os gwneir cais am hynny.
Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r cynllun hwn ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ac heb ddodrefn am 12 mis neu fwy a rhaid dangos tystiolaeth drwy gofnodion Treth y Cyngor. Mae’r grant ar gael dim ond ar gyfer perchnogion sy’n bwriadu byw yn yr eiddo eu hunain unwaith y bydd gwaith ailwampio wedi’i gwblhau ac un o amodau’r grant yw bod yn rhaid iddyn nhw fyw yno am 5 mlynedd. Nid yw eiddo sydd heb eu rhestru fel eiddo domestig ar gyfer dibenion Treth y Cyngor yn gymwys.
Bydd y grantiau yn symiau o rhwng £1,000 a £25,000 a gellir eu defnyddio dim ond ar gyfer gwaith trwsio y mae’r awdurdod lleol wedi’i nodi fel gwaith angenrheidiol (ar adeg yr ymweliad cychwynnol) i wneud yr eiddo’n ddiogel, ac ar gyfer gwaith gwella effeithlonrwydd ynni (ond nid ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni yn unig).
Mae’n rhaid i’r perchennog hefyd gyfrannu at gost y gwaith. Bydd grantiau’n cael eu diogelu drwy Bridiant Cyfreithiol gyda’r Gofrestrfa Tir a bydd unrhyw fenthyciwr gyda phridiant ar yr eiddo eisoes felly’n gorfod rhoi ei ganiatâd i gymryd Pridiant arall. Bydd angen ystyried swm yr ecwiti yn yr eiddo ar adeg cofrestru’r Pridiant.
I ddarganfod mwy am y cynllun, gweld atebion ar gyfer cwestiynau cyffredin ac i wneud cais i ymuno - Grantiau Tai | Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol Cymru.
Gyfradd TAW gostyngedig ar waith adnewyddu
Os ydych chi’n adnewyddu eiddo heb ei feddiannu, efallai y byddai’n bosib elwa o gyfradd TAW gostyngedig ar waith adnewyddu.
Er mwyn cael eich ystyried, mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi bod yn wag ers 2 flynedd o leiaf, ac yn uniongyrchol cyn dechrau'r gwaith adnewyddu.
Mae canllawiau CThEM yn nodi bod llythyr gan yr Awdurdod Lleol yn cadarnhau bod yr eiddo wedi bod yn wag am y cyfnod cymhwyso yn gwbl dderbyniol. Dylech siarad â’ch contractwr am hyn gan y bydd angen iddynt godi’r TAW cywir arnoch.
I gael wybodaeth am y cynlluniau, cysylltwch â ni drwy e-bost at taigwag@conwy.gov.uk, ffoniwch 01492 574235, neu llenwch ein ffurflen ymholiadau ar-lein.
Nesaf: Cynllun Prydlesu Cymru