Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Landlordiaid Rhentu ystafell neu eiddo

Gwybodaeth i landlordiaid preifat: rhentu ystafell neu eiddo


Summary (optional)
start content

Rhentu ystafell yn eich cartref

Mae gan Lywodraeth y DU wybodaeth am rentu ystafell yn eich cartref.

  • Rydych chi'n landlord preswyl os ydych chi'n rhentu rhan o eiddo sy'n unig gartref neu'n brif gartref i chi.
  • Efallai y byddwch chi'n gallu ennill £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth o dan y Cynllun Rhentu Ystafell.

Cynllun Prydlesu Cymru

Mae Cynllun Prydlesu Cymru yn gynllun prydlesu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan cynghorau lleol. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i’r cyngor am incwm rhentu misol sicr a gwasanaeth rheoli eiddo cyflawn am rhwng 5 ac 20 mlynedd.

Gwasanaeth Prydlesu Sector Preifat Conwy

Rydym yn cynnig gwasanaeth prydlesu sector preifat didrafferth i landlordiaid yn sir Conwy.

  • daliadau rhent wedi’u sicrhau am 12 mis o’r flwyddyn
  • peidio colli rhent pan fydd eiddo'n wag
  • dim ffioedd rheoli
  • bydd unrhyw ddifrod gan y tenant yn cael ei drwsio heb unrhyw gost i’r landlord
  • peidio gorfod ymwneud yn uniongyrchol â thenantiaid
  • archwiliadau iechyd a diogelwch am ddim
  • peidio gorfod bodloni rhwymedigaethau Rhentu Doeth Cymru

Nesaf: Rhent, blaendal a bondiau

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?