Period Proud CCBC (Colour)
Rydyn ni’n credu na ddylai neb deimlo embaras, gorfod mynd heb, na cholli allan oherwydd eu mislif.
Yng Nghonwy, rydyn ni’n falch o gefnogi pob person ifanc a theulu drwy gynnig cynnyrch mislif yn rhad ac am ddim, sy’n hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.
Mae’r dudalen hon yn esbonio:
- Beth sydd ar gael
- Ble i gael cynnyrch
- Sut rydyn ni’n gweithio i leihau tlodi mislif ac i herio stigma
Gwyliwch y fideo yma i ddysgu mwy:
content
Mae Conwy sy’n Falch o’r Mislif yn rhan o ymgyrch Cymru sy’n Falch o’r Mislif, sydd yn strategaeth genedlaethol i sicrhau nad yw mislif yn rhwystr i addysg, iechyd na pharch at eich hun.
Rydyn ni’n anelu at:
- Sicrhau bod pawb yn gallu cael cynnyrch mislif am ddim pan fydd eu hangen
- Hybu sgyrsiau agored a chadarnhaol am y mislif
- Herio stigma, cywilydd a chamwybodaeth
- Cefnogi addysg gynhwysol i bob rhyw
content
Mae cynnyrch mislif ar gael i unrhyw un sydd ei angen, heb unrhyw gwestiynau na barn. Does dim rhaid i chi esbonio na chyfiawnhau dim.
Gellir dod o hyd i gynnyrch am ddim mewn:
- Ysgolion (gofynnwch yn y brif swyddfa, tîm lles neu wasanaethau myfyrwyr)
- Llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol
- Canolfannau teulu a gwasanaethau ieuenctid
- Banciau bwyd a mannau cymunedol partner
- Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella
Mwy cyfforddus i siarad efo rhywun? Ebostiwch ni: periodproud@conwy.gov.uk
content
Poeni am ddechrau dy mislif yn yr ysgol? Ti ddim ar ben dy hun, rydyn ni yma i helpu.
Rydyn ni’n sicrhau bod pob ysgol yng Nghonwy yn cael cynnyrch mislif am ddim, a bod staff cefnogol ar gael fel bod ti’n gallu teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus.
Dyma beth y medri di wneud:
- Gofyn i oedolyn dibynadwy yn yr ysgol os oes arnat angen cynnyrch
- Siarad efo dy athro neu nyrs ysgol os wyt ti mewn poen neu ag unrhyw gwestiynau
- Cymryd amser i orffwys os wyt ti ddim yn teimlo’n dda – mae hynny’n iawn
Mae cynnyrch mislif ailddefnyddiadwy am ddim hefyd ar gael mewn rhai ysgolion, gofynna i dy ysgol neu weithiwr ieuenctid.
content
Rydyn ni’n deall y gall siarad am y mislif deimlo’n anghyfforddus, ond does dim rhaid iddo fod felly.
Fel rhiant neu ofalwr, gallwch gefnogi eich plentyn drwy:
- Ddefnyddio enwau cywir ar gyfer rhannau’r corff
- Aros yn agored, tawel a chadarnhaol mewn sgyrsiau
- Eu sicrhau bod profiad pawb yn wahanol ac yn hollol ddilys
- Eu helpu i ddewis y cynnyrch mislif sy’n gweithio orau iddyn nhw
Adnoddau defnyddiol:
content
Mae Conwy yn annog defnyddio cynnyrch mislif cynaliadwy fel padiau ailddefnyddiadwy, dillad isaf a chwpanau mislif.
Maen nhw’n:
- Fwy caredig i’r amgylchedd
- Yn fwy cost-effeithiol dros amser
Cysylltwch â’ch ysgol, clwb ieuenctid neu ganolfan deulu i ddysgu mwy
content
Mae’r mislif yn rhan naturiol o fywyd, ond mae llawer o bobl ifanc dal ddim yn teimlo’n hyderus i’w reoli.
Gall creu amgylchedd sy’n Falch o’r Mislif yn eich sefydliad helpu i newid hynny. Mae Plan International UK yn cynnig adnoddau a hyfforddiant i helpu sefydliadau i:
- Ddeall yr heriau mae pobl ifanc yn eu hwynebu
- Gynnig atebion ymarferol
- Hybu urddas mislif mewn ysgolion, clybiau a lleoliadau cymunedol
content
Gallwch chi helpu i wneud Conwy yn Falch o’r Mislif drwy:
- Rannu’r dudalen hon
- Siarad yn agored am y mislif
- Herio mythau a stigma
Cysylltwch â Ni
Oes gennych chi gwestiwn neu angen cymorth?
Ebostiwch periodproud@conwy.gov.uk