Gwybodaeth am Blanhigfa Bryn Euryn - fersiwn hawdd ei darllen
Mae Gwasanaeth Anableddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gyhoeddi agoriad Planhigfa Bryn Euryn ar ei newydd wedd. Ar ôl cau ar gyfer ei ailddatblygu, rydym bellach ar agor i’r cyhoedd. Dewch i ymweld â’r ganolfan arddio a’r siop, neu am baned o de a thamaid blasus yn y caffi.
Mae’r Ganolfan Arddio, y Siop a’r Caffi yn fenter ffantastig sy’n cynnig gwasanaeth mentora cyflogaeth i bobl ag anghenion sydd am gael swydd â chyflog.
Rydym yn falch o arwain newid positif i bobl gydag anghenion sydd am ddechrau eu gyrfaoedd, wrth sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad siopa o’r safon uchaf.
Byddwn yn arddangos y gorau o’n cynnyrch cartref a chynnyrch lleol, gan gynnwys eitemau gan ddetholiad o ddarparwyr a busnesau o’r ardal gyfagos. Mae’r caffi yn cael ei redeg gan ein hasiantaeth bartner, Hft.
Nadolig am Mryn Euryn
Fis Tachwedd a mis Rhagfyr bydd Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn yn cynnal cyfres o weithdai, digwyddiadau ac adloniant Nadoligaidd.
Dewch i ddysgu mwy ac archebu’ch lle, ffoniwch 01492 577530 neu anfonwch e-bost at bryneuryn.nursery@conwy.gov.uk.
content
Dangoswch eich creadigrwydd yn ein gweithdy torchau Nadolig, gyda the prynhawn Nadoligaidd yng Nghaffi Dai wedyn.
Dyddiad: 2 Rhagfyr 2025
Amser: 1pm tan 4pm
Pris: £50 y pen
content
Ymunwch â ni yng Nghaffi Dai i fwynhau crempogau Americanaidd gydag amryw bethau arnynt a dewis o wahanol sudd
Dyddiad: 30 Tachwedd 2025
Amser: 9am tan 11am
Pris: £10 y plentyn
content
Dewch i weld Siôn Corn yn ei ogof a derbyn anrheg Nadolig i fynd adref gyda chi.
Dyddiadau: 30 Tachwdd a 6 Rhagfyr 2025
Amser: 11am tan 3pm
Pris: £5 y plentyn
content
Ymunwch â ni ar gyfer prynhawn o garolau a chaneuon Nadolig poblogaidd.
Dyddiad: 10 Rhagfyr 2025
Amser: 11am tan12pm and 1:30pm to 2:30pm
Pris: Free
content
Mae gennym ni ddewis gwych o goed Nadolig, torchau, planhigion addurniadol ac eitemau i’r bwrdd, beth bynnag eich cyllideb.
Torchau, planhigion ac eitemau i’r bwrdd:
-
Torch heb ei addurno 8": £19.99
-
Torch heb ei addurno 10": £24.99
-
Torch wedi'i addurno 8": £24.99
-
Torch wedi'i addurno 10": £29.99
-
Potiau celyn: £8.99
-
Eitem bwrdd yn cynnwyd cannwyll: £8.99
-
Torchau artifissial mewn bocs addurniadol: £24.99
Coed Nadolig:
-
Finydwydd lwydlas 5 troedfedd: £40.00
-
Finydwydd lwydlas 6-7 troedfedd: £50.00
-
Finydwydd lwydlas 8 troedfedd: £60.00
-
Ar gyfer coed dors 8 troedfedd cysylltwch â bryneuryn.nursery@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 577530
Bryn Euryn LogoPlanhigfa a Chaffi Bryn Euryn
Dinerth Road
Llandrillo-yn-Rhos
LL28 4YN
Ar agor dydd Llun i ddydd Sadwrn 9:30am tan 4pm a dydd Sul 10am tan 4pm
Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
Dilynwch ni ar InstagramFunded by UK GovernmentMae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.