Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gorchmynion Amddifadu o Ryddid Cymunedol


Summary (optional)
Mae Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol yn rhoi amddiffyniad dan y gyfraith i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, mewn prosiectau byw â chymorth neu lety Rhannu Bywydau, pan gyfyngir ar eu rhyddid am eu bod mewn perygl o niwed, a’u bod heb alluedd meddyliol i benderfynu ynglŷn â’u trefniadau gofal.
start content

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain ac mewn llety Byw â Chymorth a Rhannu Bywydau. Nid ydynt yn berthnasol i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal ac ysbytai. Mae’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ar waith ar eu cyfer hwy. I gael gwybodaeth am y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, ewch i’r dudalen wybodaeth am Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.

Beth yw Rhyddid?

Mae’r hawl i ryddid yn galluogi pawb i gael rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain am ble i fyw a sut. Amddiffynnir ein hawl i ryddid yn Erthygl 5 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Beth yw Amddifadu o Ryddid?

Mae amddifadu o ryddid yn digwydd pan gyfyngir ar ryddid unigolyn:

  • Gan fod rhywun arall yn eu goruchwylio drwy’r amser.
  • Gan nad ydynt yn rhydd i adael eu lle byw a mynd i fyw yn rhywle arall.
  • Gan nad oes ganddynt alluedd meddyliol i gydsynio i’r trefniadau hyn.
  • A bod yr Awdurdod Lleol neu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwybod am y peth.


Os hoffech gael gwybod mwy am y ddeddfwriaeth a’r ffordd y’i gweithredir, mae’r dolenni hyn yn ddefnyddiol:


Beth yw Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol?

Mae hyn yn berthnasol i rywun sy’n byw:

  • Mewn cynllun byw â chymorth
  • Mewn llety Rhannu Bywydau
  • Yn eu cartref eu hunain – lle darperir cefnogaeth gan y teulu neu ddarparwr gofal, neu’r ddau (gan gynnwys drwy Daliadau Uniongyrchol)


NID yw’n berthnasol i gartrefi gofal neu ysbytai – mae’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn ymdrin â hynny. I gael gwybodaeth am y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, ewch i’r dudalen wybodaeth am Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.

Os nad oes gan unigolyn dros 16 oed alluedd meddyliol i gydsynio i’w trefniadau gofal, mae’n rhaid i’r Llys Gwarchod roi awdurdod i’w hamddifadu o’u rhyddid er mwyn sicrhau yr amddiffynnir hawl yr unigolyn i ryddid. Ni chaiff all rhiant, Atwrnai na Dirprwy Iechyd a Lles roi awdurdod ar ran yr unigolyn i’w hamddifadu o’u rhyddid.

Beth yw’r Llys Gwarchod?

Mae’r Llys Gwarchod yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â phobl sydd heb alluedd i wneud penderfyniadau dros eu hunain. Ymhob achos, nod y Llys yw amddiffyn hawliau a rhyddid yr unigolyn gymaint â phosibl.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Llys Gwarchod.

Beth yw Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol?

Mae’r rhain weithiau’n cael eu galw’n ‘Community DoL’ hefyd. Nid yw Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol yn golygu o reidrwydd fod rhywbeth o’i le â’r gofal a ddarperir i rywun neu lle maent yn byw. Nid yw’n golygu o reidrwydd bod angen newid y cyfyngiadau y mae rhywun yn byw â nhw. Dylai’r cyfyngiadau yma fod ar waith i ddiogelu’r unigolyn rhag niwed. Dylent fod yn gymesur â’r risgiau.

Enghreifftiau o gyfyngiadau posib:

  • Bod o dan oruchwyliaeth; gall hyn olygu synwyryddion.
  • Peidio â gallu gadael man cymunedol yn barhaol neu gael eu cymryd yn ôl petaent yn ceisio gadael.
  • Offer sy’n atal rhywun rhag symud neu gael mynediad, fel drysau wedi’u cloi, rheiliau ar y gwely a gwregys glin mewn cadair olwyn, er enghraifft.
  • Aelod o staff yn hebrwng rhywun allan yn y gymuned.
  • Arfer dulliau ymyrryd corfforol.
  • Meddyginiaeth gudd neu feddyginiaethau llonyddol a gwrth-seicotig.
  • Cyrffyw.


Efallai y bydd cyfyngiadau eraill ar waith yn ôl anghenion yr unigolyn.

Dilynwch y dolenni isod i gael cyngor a gwybodaeth yn rhad ac am ddim am arferion cyfyngol, a’r hyfforddiant ac offer a fedr helpu wrth ystyried arfer dulliau eraill llai cyfyngol:

I gael gwybod mwy, cymerwch gip ar ein Canllaw Hawdd ei Ddarllen ynglŷn â Gorchmynion Amddifadu o Ryddid Cymunedol.

Sut mae Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol yn amddiffyn yr hawl i ryddid?

Mae’r Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol yn sicrhau:

  • Y gofynnir i’r unigolyn am eu teimladau ynglŷn â ble maent yn byw a sut.
  • Bod gan yr unigolyn eiriolwr, os oes angen, i’w cefnogi i gael lleisio eu barn.
  • Y gofynnir i bawb sy’n cyfrannu at ofalu am yr unigolyn am eu barn ynglŷn â’r trefniadau.
  • Bod yr unigolyn yn byw mewn lle addas sy’n bodloni ei anghenion.
  • Bod gan yr unigolyn neu rywun sy’n ymwneud â’u gofal yr hawl i apelio os byddant yn anghytuno â’r trefniadau.
  • Bod y trefniadau’n gyfreithiol, yn angenrheidiol ac yn gymesur.


Nid yw Gorchymyn yn eu hatal rhag symud yn y dyfodol os penderfynir mai hynny sydd orau iddynt os bydd eu hanghenion yn newid. I gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd ar ôl cadarnhau Gorchymyn, cymerwch gip ar ein Canllaw Hawdd ei Ddarllen.

Yn ystod yr asesiad bydd yr Asesydd Pennaf Les neu’r sawl sy’n meddu ar Atwrneiaeth ar gyfer Iechyd a Lles, os oes rhywun, yn dynodi rhywun i fod yn gynrychiolydd ar ran yr unigolyn ar gyfer y Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol. Y Cynrychiolydd Rheol 1.2 yw hwn. Gall fod yn aelod o’r teulu, ffrind neu gynrychiolydd annibynnol. I gael gwybodaeth am y swyddogaeth hon, darllenwch ein Canllawiau ynghylch Cynrychiolwyr Rheol 1.2.

Beth ddylwn ei wneud os credaf fod rhywun ag anabledd sy’n byw yn y gymuned yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid?

Cyn gwneud dim byd arall, siaradwch â’r staff gofal neu’r gweithiwr gofal cymdeithasol dynodedig i holi a wnaed atgyfeiriad am asesiad Amddifadu o Ryddid Cymunedol. Os nad felly, ac os credwch y dylid cynnal asesiad, gofynnwch iddynt wneud atgyfeiriad.

Os oes gan yr unigolyn ofalwyr anffurfiol, fel teulu a ffrindiau, gallant hwythau wneud atgyfeiriad.

Gwneir atgyfeiriadau i’r Awdurdod Lleol.

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n gweithio â’r unigolyn, llenwch y Ffurflen Gais am Asesiad.

Dylai pawb arall lenwi’r Ffurflen Gais am Asesiad i Deulu, Ffrindiau a Chymorthyddion.

Llenwch y ffurflen â chymaint o wybodaeth ag y gallwch, fel bod modd rhoi blaenoriaeth addas i’r cais yn rhestr aros y tîm. Dylid anfon ffurflenni wedi’u llenwi i’r Gwasanaeth Anableddau drwy e-bost: gweinydduanableddau@conwy.gov.uk

Pwy fedraf eu holi am hyn?

I gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Anableddau ar 01492 575374 neu gweinydduanableddau@conwy.gov.uk a gofynnwch am gael siarad gyda’r Asesydd Lles Pennaf neu’r Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig.

Mae’r gyfraith sy’n llywodraethu trefniadau colli rhyddid yn datblygu o hyd. Canllaw cyffredinol yn unig yw’r wybodaeth uchod ac ni ddylid ei hystyried yn ddatganiad diffiniol o’r gyfraith ar unrhyw gyfrif. Cysylltwch â’ch Asesydd Lles Pennaf os hoffech gael mwy o wybodaeth.

Fe gewch chi hefyd wybodaeth a chyngor annibynnol ar wefannau mudiadau gwirfoddol a sefydliadau sy’n ymdrin â chyfraith iechyd a gofal cymdeithasol, fel MencapCymdeithas Alzheimer’sMind CymruComisiwn y Gyfraithy Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru, er enghraifft.

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?