Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mind of My Own (i staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)


Summary (optional)
Mae apiau Mind Of My Own yn gwneud rhoi tystiolaeth o farn plant a phobl ifanc yn haws, yn gyflymach ac yn hwyl!
start content

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant yng Nghonwy, canfyddwch sut i gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi er mwyn gallu ychwanegu apiau Mind of My Own at eich pecyn gwaith.

Dyma gyflwyniad fideo byr iawn i apiau Mind Of My Own.




Beth yw Mind of My Own?

Mae Mind Of My Own yn creu apiau sy’n ei gwneud hi’n haws i blant a phobl ifanc fynegi eu barn ac i weithwyr ddangos tystiolaeth o'r farn honno. Mae dros 100 o sefydliadau eisoes yn defnyddio apiau Mind Of My Own yn llwyddiannus i ddangos tystiolaeth o farn y bobl ifanc sy'n defnyddio eu gwasanaethau.

Mae yna ddwy nodwedd – ap “One” ac “Express”.  Mae ap One yn helpu pobl ifanc i gyfleu eu barn mewn ffordd sy’n gweddu iddyn nhw. Mae pobl ifanc yn creu eu cyfrif eu hunain ar yr ap One, y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais. Mae Express yn ap hygyrch i blant iau a phlant ag anghenion ychwanegol fynegi eu barn. Dim ond drwy gyfrif gweithiwr y gellir defnyddio ap Express.

Sut i ddefnyddio Mind of My Own?

Bydd Mind of my Own yn eich helpu yn eich gwaith gyda phobl ifanc mewn sawl ffordd!

  • Ymweliad ar y gweill? Gofynnwch i’r person ifanc gwblhau’r senario “Mae fy ngweithiwr yn ymweld” ymlaen llaw.
  • Dod i adnabod unigolyn ifanc newydd? Gofynnwch iddyn nhw gwblhau datganiad “Dyma fi” neu ddatganiad “Lles”.
  • Paratowch ymlaen llaw ar gyfer adolygiad plant sy'n derbyn gofal neu gynhadledd amddiffyn plant, er mwyn sicrhau bod barn y plentyn yn cael ei chlywed.
  • Gall pobl ifanc rannu eu newyddion da gyda chi.

Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud am Mind Of My Own?

“Mae siarad yn y ffordd yma gymaint haws i mi – mae’n chwyldroadol.”
Cara, 16, plentyn mewn angen

"Fe wnaeth i mi feddwl drosof fy hun. Ap da iawn ac yn hawdd iawn ei ddefnyddio."
Becky, 15, mewn gofal

Sesiynau hyfforddiant

Os ydych chi'n newydd i Gonwy, neu efallai yr hoffech chi gael sesiwn gloywi, mae yna sesiynau hyfforddi misol i'ch helpu chi i gychwyn gyda Mind of my Own.

Ble alla' i gael mwy o wybodaeth?

I gael mwy o wybodaeth am apiau Mind Of My Own, ewch i'r wefan Mind of My Own.

Gallwch chi hefyd ofyn i Alan Thompson, ein Harweinydd Gweithredol yng Nghonwy, os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae’r apiau’n cael eu defnyddio yn ein gwasanaethau

Darllenwch y Safonau Ymarfer sy’n cefnogi defnydd Mind Of My Own, ac yn amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan weithwyr a gofalwyr ar draws yr Awdurdod.

Dolenni allweddol

Dyma’r prif ddolenni y byddwch eu hangen i ddefnyddio Mind of my Own.

Awgrym: Crëwch eich nod tudalen eich hun, neu lwybr byr ar eich bwrdd gwaith i'ch tudalen Cyfrif Gweithiwr!

Lle i Ymarferwyr

Dyma lle gallwch chi ymarfer gyda’ch “Proffil Prawf”, a gallwch osod proffiliau ar gyfer eich pobl ifanc.

Ap One

Dyma brif ap One. Gall pobl ifanc greu eu cyfrifon eu hunain.

Express

Ap Express, ar gyfer plant iau a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Porth Gwasanaeth

Dyma lle mae staff cymorth busnes yn rheoli’r holl wybodaeth sy’n dod i mewn, ac yn anfon datganiadau ymlaen at y gweithwyr cywir.

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?