Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymwybyddiaeth Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • Dydd Llun 1 Mehefin, 2pm tan 3pm
  • Dydd Mawrth 9 Mehefin, 11am tan 12pm
  • Sesiwn ychwanegol: dyddiad i’w gadarnhau

Manylion y cwrs

  • Lleoliad: Microsoft Teams

Mae’r sesiwn ymwybyddiaeth hon yn rhoi cyflwyniad i eiriolaeth o fewn gwasanaethau plant, gyda ffocws ar y ddyletswydd statudol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i leisio eu barn. Bydd y sesiwn yn archwilio rôl eiriolaeth o fewn gofal cymdeithasol ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyrwyddo mynediad at wasanaethau eiriolaeth.

Bydd cyfranogwyr yn cael dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o eiriolaeth sydd ar gael, y broses atgyfeirio, a’r gwasanaethau a ddarperir gan Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru. Bydd y sesiwn hefyd yn pwysleisio’r “cynnig gweithredol” a chyfrifoldeb gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod eiriolaeth yn cael ei hystyried a’i chynnig yn briodol.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth, helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod pryd mae angen eiriolaeth, ac i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?