CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY
DEDDF CYLLID LLYWODRAETH LEOL 1992
ADRAN 65
Gwahoddir unigolion neu gyrff, sy’n cynrychioli’r sawl sy’n gorfod talu Trethi Annomestig yn ardal Llywodraeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac sy’n dymuno i ni ymgynghori â nhw ynglŷn â Chyllideb Refeniw’r Awdurdod am y flwyddyn 2026/2027, i ysgrifennu i’r diben hwnnw at y Cyfarwyddwr Strategol, Ariannol ac Adnoddau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN erbyn 16 Ionawr 2026.
AMANDA HUGHES
Cyfarwyddwr Strategol, Ariannol ac Adnoddau