Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Datganiad Cyfrifon 2025/26 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Datganiad Cyfrifon 2025/26 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy


Summary (optional)
start content
Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2026.

Dangosir terfynau amser statudol 2025/26 yn y tabl isod ynghyd â therfynau amser estynedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Eitem Dyddiad Cau Statudol Dyddiad Cau Estynedig 
Datganiad Cyfrifon Drafft 31 Mai 2026 30 Mehefin 2026
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig  31 Gorffennaf 2026 30 Medi 2026

Nid yw’r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026 erbyn y dyddiad cau statudol a bydd yn gweithio o fewn y terfynau amser estynedig.
end content