Bydd y prosiect yn cyflwyno ystod o gyrsiau hyfforddi llwybrau gan gynnwys cymwysterau achrededig sector-benodol, sgiliau cyflogadwyedd a lleoliadau gwaith mewn sectorau twf a blaenoriaeth yng Nghonwy.
Mae’r rhain yn cynnwys adeiladu, (gan gynnwys menywod ym maes adeiladu), ynni gwyrdd/tai modiwlaidd, sgiliau digidol hanfodol, diogelwch, manwerthu, twristiaeth/lletygarwch/hamdden, hunangyflogaeth.
Bydd cyrsiau Llwybrau at Waith yn canolbwyntio ar uwchsgilio unigolion i ymuno â'r farchnad swyddi neu ennill profiad / neu gymwysterau i ennill gwaith o ansawdd gwell o ran tâl a dibynadwyedd.
Bydd cyrsiau hefyd yn canolbwyntio ar hyder, lles a sgiliau cyflogadwyedd gan gynnwys ymwybyddiaeth o'r sector a diwydiant, adeiladu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad a chwilio am swydd.
Bydd y prosiect yn targedu sectorau lle mae prinder llafur yn lleol a lle bydd yn haws i fuddiolwyr gael gwaith yn dilyn ein hymyrraeth.
Bydd y cyrsiau'n cael eu rhedeg mewn partneriaeth â darparwyr allanol a'r trydydd sector gyda chefnogaeth lawn gan Gydlynydd Hyfforddiant Hwb Cyflogaeth Conwy a Mentoriaid.
Bydd y prosiect o fudd i fusnesau a phobl yng Nghonwy.
Arweinydd Prosiect: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyswllt: Susan Tracey
E-bost: susan.tracey@conwy.gov.uk
Gwefan: Hwb Cyflogaeth Conwy - Mwy o wybodaeth