Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n darparu’r cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canolfannau diogel a chlyd y gaeaf hwn 2025-2026.
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i gefnogi Canolfannau Cynnes fel lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol lle y gall pobl fynd yn ystod y gaeaf.
Mae nifer o sefydliadau yn cynnwys awdurdodau lleol, cynghorau cymunedol, grwpiau ffydd, clybiau chwaraeon, a chanolfannau cymunedol eisoes yn darparu, neu’n bwriadu sefydlu Canolfannau Clyd o fewn cymunedau lleol. Pwrpas y cyllid Canolfannau Clyd yw cefnogi llefydd y gall pobl fynd i gadw’n gynnes ac yn ddiogel yn ystod y dydd/gyda’r nos i gefnogi lles economaidd a chymdeithasol pobl ar draws Cymru dros y gaeaf.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi derbyn dyraniad o £55,000 i ddarparu Canolfannau Clyd yng Nghonwy.
Pwy all ymgeisio?
Gall y mathau canlynol o sefydliadau (nid-er-elw) ymgeisio am gyllid cyn belled bod eu prosiectau o fewn sir Conwy:
- Grwpiau Cymunedol a Gwirfoddol
- Cynghorau Tref / Cymuned
- Mentrau cymdeithasol cyn belled eu bod yn gweithredu ar sail nid-er-elw (yn cynnwys undebau credyd).
- Cydweithfeydd
- Cwmnïau cymdeithasol
- Mentrau cymunedol
- Cwmnïau cyfyngedig drwy warant
- Cwmnïau budd cymunedol ac ymddiriedolaethau datblygu
- Elusennau
- Sefydliadau’r trydydd sector
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael cyfansoddiad a chyfrif banc. (Bydd yn rhaid darparu copi)
Pa gefnogaeth ariannol sydd ar gael?
- Gall ymgeiswyr wneud cais am unrhyw swm rhwng £500 a £1000
- Bydd yn rhaid cynnwys crynodeb o gostau yn y ffurflen gais
- Nid oes gofyniad arian cyfatebol
- Mae’n rhaid cwblhau prosiectau erbyn 15 Mawrth 2026
Ar gyfer beth mae modd defnyddio’r cyllid?
Gellir defnyddio cyllid i sefydlu / ailsefydlu gofodau ac ychwanegu gwerth i’r rhai sydd eisoes ar waith gan gefnogi lles economaidd a chymdeithasol pobl yng Nghymru dros y gaeaf.
Bydd y cyllid yn cefnogi llefydd sy’n darparu amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion. Yn ogystal â chynnig rhywle cynnes ar gyfer preswylwyr, bydd y canolfannau hyn yn darparu amgylchedd agored, croesawgar a chynhwysol ac ar gael i’w defnyddio gan bawb yn y gymuned. Byddant yn nodi ac yn darparu ar gyfer anghenion lleol.
Gallai enghreifftiau gynnwys (ond nid yw hon yn rhestr gyflawn):
- lluniaeth a byrbrydau syml (fel isafswm) ond fe allent ymestyn y ddarpariaeth i bryd mwy helaeth lle y bo’n bosibl.
- darparu gwasanaeth cyngor a chymorth i’r rhai sydd yn mynychu, er enghraifft gall hyn fod yn gyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu hygyrchedd digidol.
- gweithgaredd buddiol pellach megis ymarfer corff, gweithgareddau celfyddydol neu ddiwylliannol (yn amodol ar leoliadau ac argaeledd).
Sut i wneud cais?
Bydd y ffenestr ymgeisio ar agor am bythefnos o 1 Medi tan 30 Medi 2025.
Bydd pob cais yn cael ei drafod a’i benderfynu gan banel, gan gynnwys cynrychiolwyr o Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a CGGC. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod y canlyniad cyn mis Tachwedd.
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu’r wybodaeth ganlynol bob mis:
- a. Faint o arian a wariwyd ac ar beth
- b. Nifer y llefydd a gefnogir
- c. Gweithgareddau o fewn y llefydd a gefnogir
- d. Faint o bobl sydd wedi cael mynediad at y llefydd a gefnogir
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cytuno i’r canllawiau canlynol gan Llywodraeth Cymru
Gofynion monitro
Mae’n rhaid i chi:
- (a) ddarparu i ni’r cyfryw ddogfennau, gwybodaeth ac adroddiadau y gallwn yn rhesymol ofyn amdanynt o bryd i’w gilydd, er mwyn i ni fonitro eich cydymffurfiaeth chi â’r Amodau yn cynnwys:
- (i) Bydd CLlLC yn cyflwyno adroddiad bob chwarter rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Ebrill 2024 drwy gadarnhau manylion yr adnoddau a ddyrannir i bob awdurdod, y gweithgaredd y mae pob awdurdod yn disgwyl defnyddio’r adnoddau ar ei gyfer, ac unrhyw wariant a gyflawnwyd hyd yma (ac ar beth), sy’n bodloni’r dibenion a amlinellir yn Atodlen 1 ac Atodiad A.
- a. Beth mae pob Awdurdod Lleol wedi’i wario ac ar beth
- b. Nifer y llefydd a gefnogir
- c. Gweithgareddau o fewn y llefydd a gefnogir
- d. Faint o bobl sydd wedi cael mynediad at y llefydd a gefnogir
- (b) cyfarfod â Swyddog o Lywodraeth Cymru neu unrhyw gynrychiolydd arall o’r fath y gallwn yn rhesymol ofyn ichi eu cyfarfod o bryd i’w gilydd;
- (c) sicrhau fod y Rheolwr Prosiect (neu unrhyw unigolyn arall cytunedig) ynghyd ag unrhyw unigolyn arall fel sy’n ofynnol gennym, yn mynychu pob cyfarfod â’r Swyddog Llywodraeth Cymru.
Gofynion archwilio
- (a) Mae’n rhaid i chi:
- i) gynnal cofnodion cyfrifyddu cyflawn, cywir a dilys sy’n nodi’r holl incwm a gwariant mewn perthynas â’r Dibenion;
- ii) yn ddi-dâl, ganiatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion o Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, ar unrhyw adeg resymol ac ar ôl i chi dderbyn cyfnod rhesymol o rybudd (dan amgylchiadau eithriadol, megis atal neu ganfod twyll, efallai na fydd yn ymarferol rhoi rhybudd rhesymol i chi), ymweld â’ch mangre a/neu arolygu unrhyw un neu rai o’ch gweithgareddau a/neu archwilio a gwneud copïau o’ch llyfrau cyfrifon a pha bynnag ddogfennau neu gofnodion eraill, sut bynnag y'u cedwir, a allai, ym marn resymol y swyddog, ymwneud mewn unrhyw ffordd â’r modd y defnyddiwch y Cyllid. Nid yw’r ymgymeriad hwn yn lleihau dim ar effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant unrhyw un o’r uchod, ac y mae’r ymgymeriad yn ddarostyngedig i’r cyfryw hawliau a phwerau statudol hynny;
- iii) gadw’r llythyr hwn a phob dogfen wreiddiol yn ymwneud â’r Cyllid am ddeng mlynedd o ddyddiad taliad olaf y Cyllid;
- (b) Dan baragraff 17 Atodlen 8 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hawliau mynediad eang i ddogfennau a gwybodaeth sy’n ymwneud â’r arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae pŵer ganddo ef a’i swyddogion i’w gwneud yn ofynnol i bersonau perthnasol, sy’n rheoli neu’n dal dogfennau, roi pa bynnag gymorth, gwybodaeth ac esboniadau y gofynnant amdanynt; a’i gwneud yn ofynnol i’r personau hynny ymddangos ger eu bron i’r cyfryw ddiben. Caiff yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff arfer yr hawl hon ar unrhyw adeg resymol.
Mae rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ar gael drwy gysylltu â:
E-bost: datblygu.lleol@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 577824 / 01492 575946