Mae Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Gogledd Cymru’n gweithio ar draws sectorau i helpu gyda gwneud y mwyaf o’r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd yn y rhanbarth a gweithredu rhaglenni Strwythurol Ewropeaidd a Chronfeydd Buddsoddi.
Gweithio yn unol â Swyddfa Rheoli Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu’r Fargen Dwf a’r Weledigaeth Dwf ehangach, bydd y Tîm Ymgysylltu yn gwneud y mwyaf o effaith Cyllid Ewropeaidd i gyflawni nod ranedig y rhanbarth i yrru cynaliadwyedd a thwf economaidd cynhwysol ledled Gogledd Cymru.
Mae rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys 6 awdurdod lleol:
Y Timau Ymgysylltu Rhanbarthol
Mae pedwar Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (RET) wedi eu sefydlu ledled Cymru i helpu i sicrhau bod cynigion am gyllid Ewropeaidd yn bodloni cyfleoedd a buddsoddiadau’r dyfodol ar lefelau rhanbarthol – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.
map-of-wales
rhaglen-cronfeydd-strwythurol-yr-ue-2014-i-2020-prosiectau-a-gymeradwywyd.ods (live.com)
   
Mae’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn gweithio ar draws pob sector i sicrhau cyfranogiad effeithiol a llwyddiant ar gyfer buddsoddiadau a ariennir gan yr UE – gan ychwanegu gwerth at fuddsoddiadau presennol/a gynlluniwyd yng nghyd-destun gweithgareddau a chyfleodd thematig sydd wedi eu sefydlu ac sy’n datblygu. Rydym yn cyflawni hyn drwy’r camau gweithredu canlynol:
| Amcanion y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol | Camau Gweithredu’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol | 
|---|
| Cynnal trosolwg strategol o flaenoriaethau/gweithgareddau rhanbarthol | 
Caffael gwybodaeth am flaenoriaethau/trafodaethau rhanbarthol gan weithgorau rhanbartholRhwydweithio ac Ymgysylltu | 
| Prawfesur polisïau o safbwynt rhanbarthol a blaenoriaethu gweithrediadau | 
Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau consensws o ran gweithgarwch arfaethedig (blaenoriaethu) | 
| Sicrhau bod blaenoriaethau a buddiannau rhanbarthol yn rhan o raglenni’r UE | 
Sicrhau ystyriaeth a chyfranogiad rhanbarthol mewn prosiectau strategol cenedlaethol (gweithgareddau ychwanegol, yr effaith ar gyflenwad/galw am sgiliau, sicrhau ymgysylltiad traws-sector, cysondeb ag uchelgeisiau strategol, sicrhau integreiddio a dim dyblygu)Adrodd ac ymgysylltu yn rheolaidd â WEFOHwyluso’r adolygiad rheolaidd o’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd (EPF) | 
| Nodi integreiddiad / dyblygiad/bylchau posibl o ran gweithgarwch | 
Mapio gweithgarwch parhaus (a gymeradwywyd, sy’n datblygu ac sy’n dod i’r amlwg) ar draws pob ffrwd ariannu yn y rhanbarthHyrwyddo rhwydweithio ymhlith prosiectau/cysylltiadau trwy ymgysylltu a digwyddiadau | 
| Codi proffil ac ymwybyddiaeth am gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar lefel rhanbarthol | 
Hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau prosiectau trwy:Gylchlythyrau rheolaiddDatganiadau i’r WasgDigwyddiadau a Gweithdai lledaenu | 
| Cefnogi agweddau rhanbarthol ar Fonitro a Gwerthuso, a themâu trawsbynciol | 
Monitro ac asesu effaith a chwmpas gweithgarwch a ariennir gan Ewrop yn y rhanbarth trwy gyswllt rheolaidd â WEFO, cyllidwyr eraill, a chyda Buddiolwyr Arweiniol er mwyn casglu gwybodaeth yn gywir i lywio adroddiadau rheolaidd | 
| Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol sy’n adlewyrchu anghenion a chyfleoedd rhanbarthol | 
Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn cefnogi/wedi eu hintegreiddio ar draws Byrddau Dinas-Ranbarthau (Rhanbarthau Bae Abertawe a Dinas Caerdydd), Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. | 
 
Manylion Cyswllt
Os ydych chi’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio ar draws mwy nag un rhanbarth, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gysylltu â’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol trwy ddefnyddio’r manylion isod:
Gogledd Cymru
Gwefan: Gogledd Cymru  
E-bost: Barbara.Burchell@conwy.gov.uk
E-bost: RegionalEngagementTeam@conwy.gov.uk
Canolbarth Cymru
Gwefan: Canolbarth Cymru
E-bost: claire.miles@ceredigion.gov.uk
De-orllewin Cymru
Gwefan: De-orllewin Cymru
E-bost: JELewis@carmarthenshire.gov.uk / BBWalters@carmarthenshire.gov.uk
De-dwyrain Cymru
Gwefan: De-dwyrain Cymru
E-bost: SEWalesRET@bridgend.gov.uk
E-bost: Lisa.Jones@bridgend.gov.uk / Amy.Ryall@bridgend.gov.uk
   
EUStruscturalInvestmentFundsflag
Mae’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol wedi’i gefnogi gan y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru