Mae lle a ariennir ar gael i blant 3 oed mewn lleoliad cyn ysgol cofrestredig (Cylch Meithrin, Cylch Chwarae, Meithrinfa Ddydd) neu mewn Dosbarth Meithrin mewn Ysgol Gynradd o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
Mae hwn yn gais ar wahân i'r Cynnig Gofal Plant Cymru, ac mae’n rhaid gwneud cais am hwnnw trwy system ddigidol Llywodraeth Cymru.
Ni ellir defnyddio’r cyllid hwn ar gyfer gofal plant ac mae’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i’r lleoliad. Mae’n bosibl na fydd y cyllid yn cwmpasu cost lawn y sesiwn ac mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu cyfanswm y gost sy’n weddill.
Gellir gwneud cais ar gyfer grant Addysg y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer y rhai sy’n preswylio yn Awdurdod Lleol Conwy trwy’r ffurflen isod. Os ydych yn byw ar y ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych, cysylltwch â’r tîm ar y manylion isod.
Pryd mae’ch plentyn yn gymwys?
| Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng | Byddwch yn gymwys ar gyfer addysg rhan-amser a ariennir ar gyfer |
| 1 Medi a 31 Rhagfyr |
Tymor y Gwanwyn a’r Haf ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed drwy ddewis o sefydliadau cymeradwy. Gwneud cais am le mewn meithrinfa ysgol. |
| 1 Ionawr a 31 Mawrth |
Tymor yr Haf ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed drwy ddewis o sefydliadau cymeradwy. Gwneud cais am le mewn meithrinfa ysgol. |
| 1 Ebrill a 31 Awst |
Nid oes cyllid ar gael yn nhymor yr Hydref ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed mewn lleoliad gofal plant cymeradwy. Gwneir darpariaethau trwy ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig, bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol. Gwneud cais am le mewn meithrinfa ysgol.
Sylwch y bydd addysg gynnar wedi’i ariannu ar gyfer tymor y Gwanwyn a’r Haf yn dod i ben ym mis Gorffennaf pan fydd y lleoliadau'n cau. Sicrhewch eich bod wedi gwneud cais am le meithrin rhan amser mewn ysgol ar gyfer Medi 2027 ar gyfer eich plentyn. Bydd yn agor ar 21 Medi 2026.
|
Sylwch y bydd addysg gynnar wedi’i ariannu ar gyfer tymor y Gwanwyn a’r Haf yn dod i ben ym mis Gorffennaf pan fydd y lleoliadau'n cau. Sicrhewch eich bod wedi gwneud cais am le meithrin rhan amser mewn ysgol ar gyfer Medi 2027 ar gyfer eich plentyn. Bydd yn agor ar 21 Medi 2026.
Am faint o oriau fydd eich plentyn yn cael mynychu?
Gall bob plentyn sy’n gymwys dderbyn hyd at ddeg awr yr wythnos o Addysg Blynyddoedd Cynnar.
Gall lleoliadau amrywio eu horiau agor. Trafodwch hyn gyda’ch lleoliad gofal plant. Dim ond i un lleoliad y gellir dyrannu’r grant addysg gynnar.
Pa leoliadau sy’n rhan o’r cynllun?
Dim ond lleoliadau gofal plant sy’n aelodau o’r cynllun sy’n gymwys am gyllid. Gellir dod o hyd i’r rhestr o leoliadau ar y ffurflen gais ar-lein. Sicrhewch eich bod wedi archebu lle ymlaen llaw ar gyfer eich plentyn cyn gwneud cais am y grant hwn.
Sut allaf wneud cais am le i fy mhlentyn?
Er bod ymgeiswyr yn llofnodi ymwadiad i gadarnhau eu bod yn diwallu'r meini prawf cymhwyso, disgwylir i bob cais gael ei gefnogi gan dystiolaeth o ddyddiad geni'r plentyn (naill ai tystysgrif geni / pasbort / cofnod iechyd meddygol) a thystiolaeth o gyfeiriad yng Nghonwy.
Dyddiad agor: 21 Medi 2026
Dyddiad cau: 20 Tachwedd 2026
Mae canllawiau diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr pan fydd plant 3 a 4 oed yn dechrau’r cam hwn yn eu siwrnai addysgol sydd ar gael: Cwricwlwm i Gymru - addysg feithrin ar gyfer plant 3 a 4 oed: Canllawiau diwygiedig i rieni a gofalwyr (Llywodraeth Cymru) (dogfen PDF)
Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy
Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy