
Bydd ceisiadau ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Rhagfyr 2022 ar agor rŵan. Gwnewch gais drwy’r system Ddigidol Genedlaethol.
Sylwch fod hwn ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn unig. Rhaid gwneud ceisiadau am y grant 10 awr Addysg Blynyddoedd Cynnar yn uniongyrchol i Gyngor Sir Conwy. Gweler rhagor o wybodaeth am Ariannu Addysg Gynnar ar gyfer Plant 3 Oed neu cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01492 577850.
Beth yw'r Cynnig Gofal Plant Cymru?
| Mae'ch plentyn yn troi'n 3 rhwng?  | Gall eich plentyn ddechrau ar y cynnig | 
|  1 Medi a 31 Rhagfyr | 
 Ar ddechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr | 
|  1 Ionawr a 31 Mawrth | 
 Ar ddechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill | 
|  1 Ebrill a 31 Awst | 
 Ar ddechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Medi | 
 
Pwy sy’n gymwys?
I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, rhaid i chi fodloni’r meini prawf cymhwysedd isod:
- Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad at Addysg Blynyddoedd Cynnar
 
- Bod pob rhiant, neu gyplau sy'n cyd-fyw ar yr aelwyd yn gweithio ac yn ennill cyflog sy’n cyfateb i 16 awr o leiaf ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol (ni fydd rhieni'n gymwys os ydynt yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn - trothwy fesul rhiant yw hwn).
 
- Bod un rhiant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant a bod gan un rhiant gyfrifoldebau gofalu sylweddol yn seiliedig ar fudd-daliadau penodol a dderbynnir am ofalu;
 
- Bod y ddau riant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant, ond bod y naill riant a’r llall i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb rhieni, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu;
 
- Bod y ddau riant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant, ond bod un neu’r ddau riant i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar dâl salwch statudol;
 
- Bod un rhiant yn gyflogedig / mewn addysg neu hyfforddiant a bod un rhiant yn anabl neu’n analluog ar sail derbyn budd-daliadau penodol (gweler isod);
 
- Rhieni mewn addysg a hyfforddiant sydd wedi cofrestru ar gyrsiau Addysg Uwch (AU), israddedig neu ôl-raddedig neu’r rhai sydd wedi cofrestru ar gwrs mewn sefydliadau Addysg Bellach.  Yn y ddau achos, mae’n rhaid i’r cwrs fod o leiaf 10 wythnos o hyd ac fe all fod yn gwrs sy’n cael ei gyflwyno trwy ddysgu o bell;
 
- Rhieni maeth a rhieni ar absenoldeb mabwysiadu cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyso rhieni ac ar yr amod bod gofal plant yn unol â Chynllun Gofal eu plentyn maeth / Cynllun Cefnogi Mabwysiadu. 
 
Lle bydd un rhiant yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a'r rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn yn dal i allu manteisio ar y cynnig:
- Budd-dal analluogrwydd;
 
- Lwfans gofalwyr;
 
- Lwfans anabledd difrifol;
 
- Budd-dal analluogrwydd hirdymor;
 
- Lwfans cyflogaeth a chymorth (yn seiliedig ar incwm); neu gredydau yswiriant gwladol ar sail anallu i weithio neu allu cyfyngedig i weithio.
 
Sylwch: Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant. Nid yw'r cyllid yn cychwyn tan ar ôl i'ch cais gael ei basio ac mae'n dechrau ar y dyddiad cychwyn a nodir ar eich llythyr cadarnhau.
Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwyso, gallwch ymgeisio nawr.
*Sylwer, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, fe all hawlio 30 awr effeithio ar rai o’r budd-daliadau rydych yn eu cael ar hyn o bryd. Er enghraifft:
- Yr elfen gofal plant o Gredyd Treth Gwaith
 
- Credyd Cynhwysol
 
- Gofal plant di-dreth a Thalebau Gofal Plant
 
- Budd-dal Tai
 
- Gostyngiad Treth y Cyngor
 
Gwybodaeth: Effaith ar fudd-daliadau (Llywodraeth Cymru)
Mwy o wybodaeth
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr 
Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant
 
Ydych chi angen help?
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, angen gwirio eich meini prawf cymhwyster neu eisiau gwybodaeth am Ofal Plant, cysylltwch â ni.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy