Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gordaliadau Budd-dal


Summary (optional)
Os yw eich amgylchiadau yn newid gall eich Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor newid hefyd. Gall y newid hwn olygu eich bod yn derbyn budd-dal nad oes gennych hawl iddo. Yr enw ar y swm hwn yw Gordaliad.
start content

Mae'r swm budd-dal rydych yn ei gael i'ch helpu i dalu eich rhent a'ch Treth y Cyngor yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym pan rydych yn ei hawlio. Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrthym am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Bydd gordaliadau fel arfer yn cael eu gwneud pan nad ydych yn rhoi gwybod i ni am newidiadau yn eich amgylchiadau. Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym yn syth, yn ysgrifenedig, am unrhyw newidiadau a all effeithio ar eich budd-dal.

Rhai o'r newidiadau y mae'n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt yw:

  • Newid mewn incwm a/neu cynilon
  • Newid cyfeiriad
  • Newidiadau yn eich incwm neu incwm pobl eraill sy'n byw gyda chi
  • Plant sy'n gadael ysgol/dechrau gweithio
  • Oedolion sy'n symud i mewn/allan o'ch cartref
  • Priodi, gwahanu ac ysgaru

Sut fydd y Cyngor yn adennill y Gordaliad?

Gallwn ddefnyddio nifer o ddulliau i adennill gordaliad, fel:

  • Didyniadau o daliadau budd-dal tai parhaus
  • Didyniadau o rai Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol e.e. Cymhorthdal Incwm, Pensiwn Ymddeoliad Gwladol, Credyd Cynhwysol
  • Gallwch drefnu i dalu trwy ffonio'r Adain Gordaliadau ar 01492 576493

Sut fyddwch chi'n rhoi gwybod i mi fy mod i wedi cael Gordaliad?

Os rydych wedi cael gordaliad budd-dal tai a/neu Treth y Cyngor byddwn yn ysgrifennu i ddweud wrthych

  • Eich bod wedi cael gordaliad budd-dal
  • Y rheswm dros y gordaliad
  • Y swm o fudd-dal a gafodd ei ordalu
  • Sut cafodd y gordaliad ei gyfrifo

Os na fyddwch yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau personol, ac ein bod ni yn talu gormod o fudd-dal Tai a Threth y Cyngor i chi, byddwn yn gofyn i chi dalu'r arian yn ôl i ni.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu?

Os na fyddwch yn trefnu i ad-dalu eich gordaliad, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy adennill y ddyled drwy'r Llys Sirol. Gallwn hefyd basio eich achos i asiantaeth casglu dyledion. Bydd hyn yn arwain at gostau pellach ac yn cynyddu eich dyled. Bydd achos llys hefyd yn cael effaith ar eich statws credyd. Mae gan y Cyngor ddyletswydd i adennill gordaliadau a bydd yn gwneud popeth rhesymol i wneud hynny.

Beth ddylwn i ei wneud os na allaf fforddio'r ad-daliadau?

Os nad ydych yn gallu fforddio’r gordaliadau, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Adain Gordaliadau ar 01492 576493 i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Gan bwy y mae'r Cyngor yn gallu adennill y Budd-dal Tai sydd wedi'i Ordalu?

Gallwn adennill y gordaliad gan:

  • Yr unigolyn sy'n hawlio a'u partner mewn rhai amgylchiadau
  • Yr unigolyn y talwyd y budd-dal iddo/iddi e.e. Landlord neu Asiant
  • Unigolyn sy'n gweithredu ar ran yr unigolyn sy'n hawlio e.e. unigolyn penodedig/unigolyn gyda phŵer atwrnai

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content