Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Preifatrwydd a Chwcis

Preifatrwydd a Chwcis


Summary (optional)
start content

Preifatrwydd

Mae ffurflenni a rhaglenni ar wefan Conwy sy'n gofyn i chi am eich gwybodaeth bersonol.  Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac rydym eisiau eich sicrhau y byddwn yn ymddwyn mewn modd cyfrifol ac y gallwch ymddiried ynom bob amser pan fyddwn yn delio â'ch gwybodaeth bersonol.

Dim ond pan fydd eisiau eich manylion personol arnom i ddarparu gwasanaethau neu i gynllunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol, y byddwn yn gofyn am y manylion hyn.  Mae'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn cael ei chadw mewn cronfeydd data y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn berchen arnynt neu gan sefydliad a ddewiswyd i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan.

Bydd ein ffurflenni fel arfer yn dweud wrthych chi sut fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth ac ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â chwmnïau, busnesau nac unigolion eraill, oni bai bod y gyfraith yn gofyn am hynny. Cewch ragor o wybodaeth yma: Sut mae'r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth.

Gallwch ddarllen rhagor am gyfleuster taliadau ar-lein Conwy trwy ddilyn y ddolen hon.

Cwcis

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i gofio pethau fel pa iaith rydych wedi'i dewis, y drefn rydych wedi bod yn edrych ar dudalennau neu ydych chi wedi ymweld â'r safle o'r blaen.  Gallwch weld rhestr o'r cwcis rydym yn eu defnyddio isod.

Ffeil destun fechan yw 'cwci', y mae porwr y we yn ei hysgrifennu ar eich cyfrifiadur. Nid yw'n cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol; dim ond marcwyr ydynt i gofio’r pethau rydych chi wedi'u dewis pan fyddwch yn ymweld â'r safle.

Mae 2 fath o gwci:

  • dim ond pan fyddwch yn ymweld â'r safle y defnyddir cwcis ‘sesiwn’ ac maent yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau'r porwr. 
  • Mae cwcis ‘parhaus’ yn cael eu cadw am gyfnod penodol dros dro ar eich cyfrifiadur a gellir eu hailddefnyddio pan fyddwch yn ail ymweld â'r safle.

Gallwch ddysgu rhagor ar wefannau fel y wefan hon: www.allaboutcookies.org neu www.aboutcookies.org

Gallwch osod eich porwr gwe i ganiatáu, atal neu ofyn i chi am benderfyniad pan ddefnyddir cwcis.  Gyda rhai porwyr, gallwch ganiatáu cwcis sesiwn, hyd yn oed os ydych eisiau atal mathau eraill ohonynt.  Rydym yn argymell eich bod yn galluogi o leiaf cwcis sesiwn ar gyfer y wefan hon, fel bod swyddogaethau sylfaenol fel eich dewis iaith yn gweithio'n gywir.

CwciPwrpasMathCynnwys NodweddiadolTerfyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Enw: ccbc_cookie_accept

Defnyddir y cwci hwn i gofio eich dewisiadau cwci ar gyfer y wefan hon.

Nid yw’r cwci yn cynnwys gwybodaeth bersonol.

Parhaus Dangosyddion dewisiadau Ar ôl 1 blynedd

Microsoft

Enw: ASP.NET_SessionId

Mae’r cwci hwn yn storio ‘Session ID’ a ddefnyddir gan Microsoft .NET Framework i ddosbarthu’r tudalennau gwe i’r ymwelydd.

Nid yw’r cwci yn cynnwys gwybodaeth bersonol.

Sesiwn Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl cau’r porwr

JW Player

Name: jwplayer.*

Mae’r cwci hwn yn storio'r gosodiadau chwaraewr fideo a ddewiswyd. Sesiwn Setting indicators Dangosyddion gosod

SiteImprove Analytics

Enw: AWSELBCORS

Mae’r cwci hwn yn sicrhau bod yr holl ymweliadau â thudalennau ar gyfer yr un ymweliad (sesiwn defnyddiwr) yn cael eu hanfon i'r un pwynt terfyn.

Nid yw’r cwci yn cynnwys gwybodaeth bersonol a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddi’r wefan yn unig.

Sesiwn Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl cau’r porwr

SiteImprove Analytics

Enw: nmstat

Defnyddir y cwci yma i helpu i gofnodi defnydd y wefan gan yr ymwelydd. Caiff ei ddefnyddio i gasglu ystadegau am ddefnyddio’r safle, fel pryd ddefnyddiodd yr ymwelydd y safle ddiwethaf. Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i wella profiad y defnyddiwr ar y wefan.

Mae’r cwci Siteimprove Analytics hwn yn cynnwys rhif adnabod a gynhyrchwyd ar hap i adnabod y porwr pan fo ymwelydd yn darllen tudalen.

Nid yw’r cwci yn cynnwys gwybodaeth bersonol a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddi’r wefan yn unig.

Parhaus Cod a gynhyrchwyd ar hap 1000 diwrnod ar ôl yr ymweliad diwethaf

Google Analytics

Enw: _utma

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gyfannu ein rhaglen SiteImprove Analytics ac i sicrhau bod ein hystadegau yn ddibynadwy.

Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am ba dudalennau rydych wedi ymweld â nhw, pa mor hir fuoch chi ar y safle, sut aethoch chi yno a beth rydych chi’n clicio arno. Nid ydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw a’ch cyfeiriad) ac felly ni allwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod.

Gweler hefyd: tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Parhaus Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl 2 flynedd

Google Analytics

Enw: _utmb

  Parhaus Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl 30 munud

Google Analytics

Enw: _utmc

  Sesiwn Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl cau’r porwr

Google Analytics

Enw: _utmt

  Parhaus Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl 10 munud

Google Analytics

Enw: _utmz

  Parhaus  Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl 6 mis

Google Analytics

Enw: _ga

  Parhaus Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl 2 flynedd

Google Analytics

Enw: _gat

  Parhaus Cod a gynhyrchwyd ar hap Ar ôl 1 munud

Google Analytics

Enw: _gid

  Parhaus   Ar ôl 24 awr
GoogleMaps ac YouTube Mae gennym rai tudalennau sy’n cysylltu â rhaglenni allanol fel Google Maps ac YouTube. Mae’r rhaglenni hyn ar weinyddwyr gwefan Google a gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt ar Polisi Preifatrwydd Google yma..      
Twitter Mae gennym rai tudalennau sy’n cynnwys gwybodaeth o Twitter a gallwch gael rhagor o wybodaeth am Bolisi Preifatrwydd Twitter yma.      
end content