Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelu Data


Summary (optional)
Gelwir y rheolau sy’n llywodraethu ein defnydd ni o ddata personol yn Egwyddorion Diogelu Data.
start content

Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae’n rhaid i ni:

  • Ddefnyddio data personol yn ôl set o amodau a geir yn y Ddeddf Diogelu Data yn unig. Mae hyn fel arfer yn golygu mai ond pan fo'r gyfraith ei angen y byddwn yn ei defnyddio, neu gyda'ch caniatâd chi.
  • Defnyddio data personol mewn modd cyfreithiol, teg a thryloyw. Byddwch fel arfer yn cael gwybod os defnyddir data amdanoch chi.
  • Defnyddio eich data personol at ddibenion penodol, amlwg a chyfreithlon.
  • Cadw digon o ddata amdanoch i ddarparu gwasanaethau effeithiol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn cadw mwy o ddata nag sy’n rhaid.
  • Sicrhau bod y data rydym yn ei gadw’n gywir ac yn gyfredol.
  • Peidio â chadw data am gyfnod hwy nag sydd ei angen arnom.
  • Eich galluogi chi i fynd at eich data personol.
  • Sicrhau y cedwir yr holl ddata personol yn ddiogel a chymryd camau i rwystro eich data rhag mynd ar goll neu gael ei ddwyn

Dogfennau perthnasol

end content