Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Tyllu'r Croen, Tatŵio ac Aciwbigo

Tyllu'r Croen, Tatŵio ac Aciwbigo


Summary (optional)
Gwnewch gais i gofrestru ar gyfer tyllu croen, tatŵs ac aciwbigo ac electrolysis.
start content

Er mwyn cynnig y triniaethau canlynol yng Nghonwy mae'n rhaid i'r person a’r adeiladau gael eu cofrestru gyda Thîm Diogelu'r Cyhoedd:

  • aciwbigo
  • tatŵio
  • tyllu cosmetig gan gynnwys tyllu clustiau
  • electrolysis
  • lliwio croen lled barhaol

Mae cofrestru yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am drwydded neu wneud cais i newid trwydded ar wefan Gov.UK.

Ffioedd

  • Y gost i gofrestru'r busnes ar gyfer gweithgareddau tyllu croen yw £120.
  • Y gost ar gyfer pob person unigol yw £60.

Mae trwyddedau unwaith a gyhoeddwyd, yn cael eu hadnewyddu am ddim bob 2 flynedd a thystysgrif newydd yn cael ei chyhoeddi.    

Cymhwyster

Nid oes unrhyw bwerau i wrthod cofrestriad, ond mae’r arfer yn cael ei reoli drwy gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, ac mewn rhai achosion, is-ddeddfau lleol.  Bydd angen i chi hefyd roi manylion unrhyw euogfarnau blaenorol.

Bydd angen i ymgeisydd ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd.

Dogfennau Ategol

Dylai'r dogfennau canlynol hefyd gael eu cyflwyno gyda'ch cais:

  • Tystysgrifau hyfforddiant
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Ffurflen Ganiatâd
  • Taflen Cyngor Ar ôl Gofal

Prosesu ac Amserlenni

Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais.  Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni.

Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.

Mae'n anghyfreithlon cynnal tyllu cosmetig, tatŵio, lliwio croen, aciwbigo neu electrolysis oni bai bod y cofrestriad wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol.

Deddfwriaeth ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr ac adeiladau busnes fodloni gofynion Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac is-ddeddfau sydd ynghlwm wrthynt.

Rhoi gwybod am broblem

Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch gweithgareddau tyllu'r croen, llenwch ein ffurflen ar-lein

Canllawiau pellach

end content