Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i chi allu cael a gofyn am wybodaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chyrff cyhoeddus eraill yn ei dal.
Cynllun Cyhoeddi
Mae’r Cynllun Cyhoeddi’n manylu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael fel rheol o dan Ryddid Gwybodaeth. Cofiwch edrych arno gan y gall yr wybodaeth rydych yn ei cheisio fod ar gael yn gyhoeddus eisoes.
Gofyn am wybodaeth
Cysylltwch â ni:
- Drwy e-bost: info-gov.unit@conwy.gov.uk
- Dwy'r post: Uned Llywodraethu Gwybodaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG
Yn eich cais, gallwch ofyn am ddogfennau, adroddiadau neu ohebiaeth. Ceisiwch:
- fod yn fanwl gan roi disgrifiad clir o’r hyn y dylem fod yn chwilio amdano
- cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad neu eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn er mwyn i ni allu cysylltu â chi os oes angen egluro eich cais
- nodi os oes arnoch angen y wybodaeth mewn fformat penodol e.e. copi caled neu electronig, print mawr ac ati.
Gallwch ddod o hyd i gyngor ar wneud ceisiadau am wybodaeth effeithiol ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Dogfennau:
Taliadau
Os gallwn ni ddarparu’n wybodaeth o fewn 18 awr o amser staff, yna ni fydd angen talu, ond efallai y bydd ffioedd am gostau i ni, fel llungopïo, argraffu, postio a phecynnu, os yw'r ffioedd hyn yn fwy na £10. Os codir tâl, bydd cadarnhad o'r taliad sydd i'w wneud yn cael ei roi cyn y bydd y wybodaeth yn cael ei darparu, ac efallai y bydd angen talu cyn darparu’r wybodaeth.
Ymateb i’ch cais
Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw hi’n debygol y bydd oedi, byddwn yn dweud wrthych chi. Efallai y bydd y terfyn amser hwn yn cael ei ymestyn o dro i dro, os oes rhaid ystyried materion cyfreithiol cymhleth, ond fe geisiwn roi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn egluro pam ein bod yn oedi. Byddwn yn ceisio darparu’r wybodaeth i chi cyn gynted â phosibl bob tro.
Gallwn wrthod rhoi’r wybodaeth yr ydych yn ceisio amdani i chi os:
- Yw darparu’r wybodaeth yn gyfwerth â thros £450 (ar sail 18 awr, yn costio £25 yr awr)
- Nad yw'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani gennym
- Yw’r wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf
- Yw eich cais yn cael ei ystyried yn flinderus neu’n ailadroddus
Os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb
Os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth y gwnaethoch gais amdani, neu os nad ydych wedi ei derbyn i gyd, mae gweithdrefn gwyno gan y Cyngor ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Os nad ydych yn fodlon a’n hymateb, mae’n rhaid i chi gwyno’n ysgrifenedig o fewn 20 niwrnod o dderbyn ymateb y Cyngor gan roi’r rhesymau dros eich cwyn:
- Drwy e-bost: info-gov.unit@conwy.gov.uk
- Dwy'r post: Uned Llywodraethu Gwybodaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG
Gofyn am wybodaeth bersonol
Os oes arnoch eisiau eich gwybodaeth eich hun, mae gennych hawl iddi o dan Ddiogelu Data, yn hytrach na Rhyddid Gwybodaeth. Mae'r rheolau ar gyfer gwybodaeth bersonol a gwybodaeth nad yw’n bersonol ychydig yn wahanol. Gweler Gwneud cais am eich data.
Dogfen polisi