Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Hawlfraint a Gwadiadau

Hawlfraint a Gwadiadau


Summary (optional)
start content

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfamserol.  Er hynny, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu anhwylustod a achosir oherwydd dibynnu ar ddeunydd anghywir a geir ar y wefan hon.  Rhoddir cysylltiadau â gwefannau eraill er hwylustod i chi ac nid yw hyn yn golygu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn eu cymeradwyo.  Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth a geir ar wefannau eraill.

Digwyddiadau - Beth sy'n digwydd yn Sir Conwy ac o amgylch

Mae'r digwyddiadau sy'n cael eu rhestru yn yr adran hon o'r wefan yn cynnwys y rheiny sy'n cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ogystal â'r rheiny sy'n cael eu trefnu gan gyrff eraill.  Mae rhai o'r cyrff hyn yn sefydliadau masnachol. Nid yw'r ffaith bod digwyddiad yn cael ei restru ar y safle hwn yn nodi, nac yn awgrymu bod y Cyngor yn cymeradwyo'r digwyddiad, y trefnwyr na'u barn.  Nid ydym yn gwarantu cyhoeddi manylion am bob digwyddiad ac rydym yn cadw'r hawl i dynnu manylion oddi ar y rhestr.  Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am y digwyddiadau rydym ni'n eu cyhoeddi ar ein safle sydd ddim yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Dylid cysylltu efo'r trefnwyr yn uniongyrchol os oes gennych ymholiadau pellach.

Hawlfraint 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy'n dal yr hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon (gan gynnwys y testun a'r delweddau), oni nodir fel arall.

Gwadiad E-bost

Mae'r neges e-bost hon ac unrhyw ymgysylltiadau yn gyfrinachol, ac wedi eu bwriadu ar gyfer yr un sy'n cael ei h/enwi yn unig. Gallent gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw'r neges hon wedi eich cyrraedd ar gam, ni ddylech ei chopio, ei rhannu na dangos ei chynnwys i unrhyw un. Cysylltwch efo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar unwaith.

Nid yw'r Cyngor na'r un sydd wedi anfon y neges yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am feirysau, a'ch cyfrifoldeb chi yw sganio unrhyw ymgysylltiadau. Mae'r Awdurdod yn monitro'r defnydd o e-bost/rhyngrwyd a chynnwys y rhain i ddibenion busnes. 

Ffônau  

Gellir recordio unrhyw alwadau ffôn i’r Cyngor i ddibenion hyfforddiant a monitro. 

Arolwg Ordnans

Rhoddir trwydded ddirymiadwy nad yw'n gyfyngedig, heb freindal, i chi weld y Data Trwyddedig ar gyfer defnydd anfasnachol yn unig, o'r cyfnod y bydd ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

  • Ni chewch gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu, gwerthu neu fel arall drefnu bod y Data Trwyddedig ar gael mewn unrhyw ffurf i drydydd partïon; a
  • Neilltuir hawliau trydydd parti  i orfodi telerau'r drwydded hon i'r Arolwg Ordnans.

Adborth

Os gwelwch unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau gwe y credwch ei bod yn anghywir neu'n anaddas, rhowch wybod i ni drwy yrru e-bost at gwe.web@conwy.gov.uk

Newid 

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy newid y Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru'r hysbysiad hwn.

end content