Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020
Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau.
Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
start slider
end slider
start grid

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yma i helpu pobl yng Nghonwy sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Rydym yn “siop un alwad” gyfeillgar sy’n cynnig cymorth i chi ddysgu sgiliau newydd, dod o hyd i waith, cael profiad neu fagu hyder.
Cofrestrwch i gael help ar-lein.
Dyma’r hyn sydd gennym ni i’w gynnig:
- Mentoriaid cyfeillgar all eich helpu chi gyda swyddi, hyfforddiant a budd-daliadau. Mae gennym ni hefyd fentoriaid yn arbennig ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.
- Cymorth un i un sy’n bersonol i chi ac yn gadael i chi fynd wrth eich pwysau eich hun.
- Hyfforddiant a chyrsiau am ddim i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder.
- Cymorth i ysgrifennu CV, llunio ceisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
- Cymorth ariannol os bydd ei angen arnoch chi ar gyfer costau teithio, ID neu ddillad i fynd i gyfweliadau neu i weithio.
- Digwyddiadau fel sesiynau galw heibio, ffeiriau swyddi a dyddiau arbennig lle gallwch chi fynd i gyfarfod cyflogwyr.
- Mentor Cyflogaeth Digartrefedd i gefnogi pobl sy’n ddigartref neu’n wynebu risg o fod yn ddigartref.
- Cysylltiadau ag amrywiaeth eang o gyflogwyr sy’n chwilio am staff.
- Atgyfeiriadau at sefydliadau partner os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi.
Cofrestrwch ar-lein gan ddefnyddio’r ffurflen isod, ffôn: 01492 575578 or 07711 567191, e-bost: CEH@conwy.gov.uk.
start grid
end grid
start grid-more
end grid-more
end grid