Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Achos Cyflogwyr


Summary (optional)
start content

Astudiaeth Achos Cyn-filwyr Dall

Mae elusen y Cyn-filwyr Dall yn ailsefydlu ac yn darparu hyfforddiant, cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i gyn-filwyr sydd wedi colli eu golwg.

Mae’r Ganolfan Les yn Llandudno’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cyn-filwyr dall, drwy gynnig seibiant lles drwy gydol y flwyddyn, sy’n rhoi cyfle i gyn-filwyr gyfarfod cyn-filwyr eraill sydd wedi colli eu golwg, a dechrau ar eu taith at fod yn annibynnol ac oddi wrth deimlo ar wahân i gymdeithas.

Darllenwch Astudiaeth Achos Cyn-filwyr Dall

 

Astudiaeth Achos Hickory’s

Mae Jason, o Hen Golwyn, nawr yn gweithio fel porthor cegin yn Hickory’s Smokehouse, Llandrillo-yn-Rhos, diolch i gefnogaeth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy.

Mewn partneriaeth gyda chynllun lleoliadau’r bwyty ‘Smokehouse Stars’ a’r Adran Gwaith a Phensiynau, dilynodd y dyn 34 oed gwrs naw wythnos, sydd wedi magu ei hyder, ac roedd yn cynnwys sesiynau ar waith tîm a chyfathrebu, sut i ysgrifennu CV a phrofiad bywyd go iawn.

Darllenwch yr astudiaeth achos Hickory's yn llawn

 

Astudiaeth Achos Procure Plus a RELM

Mae cwrs ADEILADU yn meithrin gyrfaoedd newydd i helpu i fodloni’r galw yn y sector.

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy - sy’n goruchwylio Cymunedau am Waith, Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) a Chymunedau am Waith a Mwy - wedi bod yn darparu cyfleoedd am swyddi a sgiliau mewn partneriaeth â menter tai cymdeithasol Procure Plus a RELM Construction sydd wedi ei leoli ym Mochdre.

Ymysg y rhai hynny sydd wedi elwa mae Tom Whitworth, a gafodd swydd gyda RELM Construction ar ôl iddo greu argraff ar leoliad fel rhan o gwrs pythefnos o hyd a oedd yn ymarferol ac wedi’i leoli yn y dosbarth ac a oedd yn ymdrin â themâu fel codi a symud yn gorfforol, ymwybyddiaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sut i ddefnyddio offer pŵer a chyfarpar yn ddiogel a gweithio o uchder.

Darllenwch yr astudiaeth achos Procure Plus a RELM yn llawn

end content