Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020
Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau.
Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Mae ein rhaglen Lleoliad Gwaith am Dâl bellach ar agor!
Ydych chi’n gadael yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol, ac yn barod i fentro i fyd gwaith? Os felly, mae gennym ni nifer o gyfleoedd cyffrous yn aros amdanoch chi!
Mae ein lleoliadau gwaith am dâl, sy'n 25 awr yr wythnos am 16 wythnos, yn cael eu talu ar y Cyflog Byw Cenedlaethol, ac wedi’u dylunio i roi sgiliau, profiad a hyder i chi allu cymryd eich camau cyntaf tuag at eich dewis o yrfa.
Mae’r lleoliadau hyn yn berffaith ar gyfer y sawl sydd eisiau agor y drws i gyflogaeth, eisiau ychydig o brofiad gwaith i ychwanegu at eu CV, neu eisiau rhoi cynnig ar swydd cyn ymrwymo i’r maes.
Dysgwch fwy am ein lleoliadau gwaith am dâl a gwnewch gais yma.