Hysbysiad Cyhoeddus - Seddi Gwag
Cyngor Cymuned Bro Garmon - Ward Melin y Coed
Rhoddir rhybudd trwy hyn fod 2 sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd yn y Gymuned / Ward uchod.
Bydd etholiad yn cael ei gynnal i lenwi'r sedd wag petai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ, yn derbyn cais am etholiad o'r fath yn ysgrifennedig o fewn pythefnos ar ôl dyddiad yr Hysbysiad hwn (ac eithrio penwythnosau a gwyliau banc), oddi wrth DEG o bobl sydd wedi cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal leol lle cafwyd y sedd wag.
Clerc y Cyngor
Dyddiedig: 20 Mai 2026
Lawrlwythwch sgan o'r hysbysiad gwreiddiol wedi'i lofnodi gan y Clerc.