Rhybudd Cyhoeddus - Sedd Wag
Cyngor Cymuned Bro Machno - ward Penmachno
Rhoddir rhybudd trwy hyn fod 1 sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd yn y Gymuned / Ward uchod.
Bydd etholiad yn cael ei gynnal i lenwi'r sedd wag os bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU, yn derbyn cais am etholiad o'r fath yn ysgrifenedig o fewn pythefnos ar ôl dyddiad yr Hysbysiad hwn (ac eithrio penwythnosau a gwyliau banc), gan DDEG o bobl sydd wedi cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal leol lle mae'r sedd wag.
Clerc y Cyngor
Dyddiedig: 20 Medi 2023