Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Ext Edu-Covid Ffurflen COVID - Lleoli Ysgol Gweithiwr Allweddol

Ffurflen COVID - Lleoli Ysgol Gweithiwr Allweddol


Summary (optional)
Nid yw cael eich cynnwys ar y rhestr gweithwyr allweddol yn golygu y gall plant yr holl weithwyr yn y categorïau hyn anfon eu plant i'r ysgol. Efallai y bydd llawer o rieni sy'n gweithio yn y sectorau hyn yn gallu sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gadw gartref. Dylai pob plentyn y gellir gofalu amdano'n ddiogel gartref aros gartref. Fodd bynnag, os yw gwaith rhiant / gofalwr yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19 neu os yw mewn sector allweddol fel iechyd a gofal cymdeithasol ac na ellir cadw'r plentyn / plant yn ddiogel gartref, yna dylid rhoi blaenoriaeth iddynt ar gyfer darpariaeth addysg barhaus.
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Addysg Awdurdod Lleol Conwy

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy amddiffyn yr arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol o dan ei bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ddarparu gwybodaeth sydd ganddo at y diben hwn. Fel cyrff cyhoeddus rydym o dan ddyletswydd i amddiffyn yr arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu ac i'r perwyl hwn gallwn ddefnyddio unrhyw wybodaeth y gallech fod wedi'i darparu ar gyfer atal, canfod ac ymchwilio i dwyll neu i gydymffurfio â'r gyfraith.

Yn ogystal â chynnal ein hymarferion ‘paru data’ ein hunain efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth â chyrff cyhoeddus eraill. Mae'r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

• Archwilydd Cyffredinol Cymru

• Yr Adran Gwaith a Phensiynau

• Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol

• Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi (Cyllid a Thollau EM)

• Yr Heddlu

• GIG

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda darparwyr gwasanaeth neu gontractwyr a sefydliadau partner, lle mae rhannu gwybodaeth yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn gyfreithlon.