Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Troseddau ac Argyfyngau Trosedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol


Summary (optional)
start content

Sbardun Cymunedol

Diben Sbardun Cymunedol yw galluogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol i ofyn am adolygiad o'u hachos a dwyn y cyrff perthnasol ynghyd i ddod o hyd i ateb.

Mae Sbardun Cymunedol, sef Adolygiad o Achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, a chafodd ei gyflwyno ar draws Gogledd Cymru ar 20 Hydref 2014. 

Gallwch ofyn i banel (sef Grŵp Tasg Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) adolygu eich achos cyhyd â'i fod yn bodloni rhai meini prawf penodol. Bydd y panel adolygu wedi ei ffurfio o blith sefydliadau perthnasol a fydd yn edrych ar y cyd ar y materion yr ydych chi wedi eu hadrodd wrthynt. Bydd hefyd yn edrych ar unrhyw gamau gweithredu sydd wedi cael eu cymryd i benderfynu os oedd y cam hwnnw'n ddigonol yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac amserlenni rhesymol. Efallai y bydd y panel adolygu'n argymell cymryd camau gweithredu pellach er mwyn ceisio datrys y broblem.

Diben y Sbardun Cymunedol yw adolygu achosion penodol ynghyd â'r camau sydd wedi cael eu cymryd o ganlyniad i adrodd am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y pwyslais ar sicrhau bod lefelau priodol o orfodaeth a chymorth naill ai yn lle neu wedi cael eu hystyried.

Nid proses gwynion yw adolygiad achos Sbardun Cymunedol. Os ydych chi am wneud cwyn am ymddygiad unigolyn, rhaid i chi ddefnyddio trefn gwyno'r sefydliad sy'n berthnasol i'r unigolyn hwnnw.

Y Trothwy a Chwynion Cymwys

  • Er mwyn peri i'r Sbardun Cymunedol fod yn weithredol mae'n rhaid bod cwyn gymwys
    wedi cael ei gwneud i un o'r cyrff perthnasol.

Dyma sy'n gwneud cwyn yn un gymwys:

  • tri adroddiad gan un person;
  • cwyn sy'n ymwneud â thri digwyddiad gwahanol o ymddygiad gwrthgymdeithasol; a
  • cwyn a gafodd ei hadrodd wrth unrhyw asiantaeth leol o fewn cyfnod o chwe mis.

Rhaid i'r meini prawf canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • i gwrdd â'r trothwy rhaid i bob digwyddiad fod wedi ei adrodd wrth o leiaf un o'r cyrff perthnasol o fewn mis i'r digwyddiad
  • rhaid i'r digwyddiad cyntaf yr adroddwyd amdano fod o fewn chwe mis i wneud cais am adolygiad achos o dan y weithdrefn
  • gall cwyn gymwys fod yn achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd naill ai wedi cau neu sydd ar agor gan unrhyw gorff perthnasol yng Nghonwy neu Sir Ddinbych.
  • Gall trydydd parti hefyd beri i'r Sbardun Cymunedol ddod yn weithredol hefyd megis Aelod Cynulliad, Aelod Seneddol, Cynghorydd lleol, grŵp cymunedol, neu ofalwr person diamddiffyn neu rywun ag anableddau a fyddai'n eu rhwystro rhag gofyn am adolygu'r achos eu hunain.

Dim ond os oes ganddynt ganiatâd wedi'i lofnodi gan y dioddefwr y gall trydydd parti ofyn am adolygiad achos ar ran dioddefwr. Byddwn yn gwirio i sicrhau bod ceisiadau unrhyw drydydd parti'n ddilys; byddwn yn cysylltu â'r dioddefwr i sicrhau eu bod yn hapus bod y cais yn cael ei wneud.

Sut allwch chi wneud cais am adolygiad achos sbardun cymunedol?

Llenwch a dychwelwch y ffurflen amgaeedig:

  • Anfonwch e-bost at conwy.diogelach@conwy.gov.uk yn datgan eich bod yn dymuno gweithredu'r sbardun cymunedol. Yna bydd y Cydlynydd Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cysylltu â chi'n uniongyrchol
  • Ffoniwch 01492 575177 a rhoi gwybod sawl sy'n ateb eich bod yn dymuno gweithredu'r sbardun cymunedol. Yna bydd y Cydlynydd Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cysylltu â chi yn uniongyrchol
  • Ysgrifennwch at:

Cydlynydd Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Ffurflen

end content