Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy


Summary (optional)
Mae Astudiaeth Risg Llifogydd Llanw Conwy yn manylu ar y gwaith a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a HR Wallingford Ltd i archwilio risg llifogydd llanw yn Llandudno (Traeth y Gogledd a Phenmorfa) ac o Bensarn i Fae Cinmel. Cynhaliwyd yr astudiaeth gyda’r bwriad o ddarparu gwerthusiad gwyddonol cadarn ar gyfer llifogydd llanw.
start content

Nid yw'r map ar gael ar hyn o bryd oherwydd materion technegol. Bydd yn cael ei adfer cyn gynted â phosibl.

Mae’r ardaloedd a nodwyd i’w harchwilio yn yr astudiaeth wedi’u hamddiffyn gan mwyaf, ond nid yn gyfan gwbl, gan yr amddiffynfeydd arfordirol ac afon helaeth. Mae’n arbennig o berthnasol i nodi fod llawer o’r amddiffynfeydd sy’n gysylltiedig â’r ardaloedd dan sylw wedi’u hailadeiladu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, gyda gwelliannau cysylltiol yn eu Safon Diogelu.

I ddechrau, nodwyd y pedair ardal canlynol i’w harchwilio:

  • Pensarn i Fae Cinmel (gan gynnwys arglawdd gorllewinol Afon Clwyd);
  • Bae Penrhyn/Llandrillo yn Rhos;
  • Traeth y Gogledd Llandudno;
  • Penmorfa Llandudno

Ychwanegwyd y canlynol yn ddiweddarach:

  • Deganwy;
  • Cei Conwy;
  • Glan Conwy.

Mae terfyn yr ardaloedd astudiaeth tua’r tir wedi’i ddisgrifio gan Fapiau Lleiniau Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd 2001 ac wedi’i nodi yn y mapiau canlynol:

  • Traeth y Gogledd a Phenmorfa Llandudno
  • Pensarn i Fae Cinmel

Cyfyngiadau’r Astudiaeth

Mae defnyddio’r wefan Mapiau Llifogydd yn ddibynnol ar dderbyn yr ymwadiad ar waelod y dudalen Mapiau Llifogydd. Mae’r map ei hun yn dangos ardaloedd risg llifogydd fel polygonau glas ar y map. Lluniwyd y canlyniadau gan ddefnyddio’r wybodaeth orau oedd ar gael ar y pryd, ond, mae’n bosibl y gall newidiadau i’r dirwedd (fel amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd) ddigwydd yn y dyfodol. Nodwch hefyd fod yr astudiaeth yn ymwneud â llifogydd o’r môr yn bennaf, a’r unig lifogydd afon sy’n cael ei ystyried yw llifogydd o’r Afon Clwyd. Yn ogystal â dwr wyneb, nid yw dwr daear na llifogydd carthffosiaeth wedi’u hystyried yn benodol yn yr astudiaeth.

Mae nifer o leoliadau gyda bylchau mewn amddiffynfeydd wedi’u hystyried yn Llandudno ac o Bensarn i Fae Cinmel yn seiliedig ar ddefnyddio’r wybodaeth orau posibl oedd ar gael ar y pryd, a gellir gweld manylion pellach am y lleoliadau hyn a’r rhagdybiaethau yn adran 'Adroddiadau a Darluniau HR Wallingford’ y wefan hon.

Mae terfyn yr ardaloedd astudiaeth tua’r tir wedi’i ddisgrifio gan Fapiau Lleiniau Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd 2001.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content