Mae ein toiledau cyhoeddus i gyd ar agor heblaw am:
- Bae Colwyn, Ivy Street - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Conwy, maes parcio Morfa Bach - yn aros i gael eu trwsio
- Cyffordd Llandudno - ar gau o ganlyniad i fandaliaeth
- Dwygyfylchi, Ffordd Fairy Glen - yn aros i gael eu trwsio
- Llandrillo yn Rhos, Promenâd - yn aros i gael eu trwsio o galyniad i fandaliaeth
- Llanfairfechan, Ffordd yr Orsaf - yn aros i gael eu trwsio
- Llanrwst, Parc Gwydir - ar gau yn aros i gael eu hailddatblygu
- Pensarn, y Promenâd (anabl yn unig) - yn aros i gael eu trwsio
- Towyn, Sandbank Road - cyfleusterau dros dro ar gael
Rhestr o doiledau cyhoeddus yng Nghonwy
Oriau agor
Yn ystod misoedd yr haf (o’r Pasg tan yr wythnos gyntaf ym mis Medi)
- Ar agor rhwng 07:00 a 10:00 (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Ar gau rhwng 19:00 a 21:00 (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Canolfan Groeso Conwy: 09:30 tan 17:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10:00 tan 16:00 ar ddydd Sul. Ar gau Dydd Sul y Pasg.
Yn ystod misoedd y gaeaf (o’r ail wythnos ym mis Medi tan y Pasg)
- Ar agor rhwng 07:30 a 10:00 (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Ar gau rhwng 16:30 a 17:30 (yn dibynnu ar y lleoliad)
- Canolfan Ymwelwyr y Gogarth: ar gau rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth
- Bydd y toiledau cyhoeddus ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan
Caiff y toiledau sy’n agor ag allweddi RADAR eu cloi ar yr un pryd oherwydd achosion niferus o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cwestiynau Cyffredin am Doiledau Cyhoeddus
Oes angen i mi dalu ac os felly, sut?
Mae'n rhaid talu i ddefnyddio rhai o'n cyfleusterau. Mae cyfarwyddiadau ar y drws yn egluro sut i ddefnyddio’r peiriant talu gyda darnau arian. Peidiwch â cheisio dal y drysau ar agor - bydd hyn yn gwneud difrod i’r cloeon ac yn golygu na fydd modd defnyddio’r toiledau.
Pam nad oes yna rywun yn gofalu am bob toiled cyhoeddus?
Bydd staff ar y safle drwy’r dydd yn y cyfleusterau prysuraf a bydd staff eraill yn teithio rhwng toiledau cyhoeddus.
Cynllun Toiledau Cymunedol
Mae gennym hefyd ymrwymiad i'r Cynllun Toiledau Cymunedol, sef cynllun gan Lywodraeth Cymru i annog busnesau lleol i agor eu toiledau i'r cyhoedd.
Mae croeso i chi ddefnyddio'r toiledau hyn heb brynu dim os ydych yn gweld yr arwydd hwn.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cynllun, lawrlwythwch yr holiadur yma a’i ddychwelyd atom er mwyn i ni ei ystyried.
Cynllun Toiledau Cymunedol yng Nghonwy (PDF 2.19Mb)