Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Toiledau cyhoeddus


Summary (optional)
start content

***DIWEDDARIAD***

Rydym yn trafod nawdd ar gyfer toiledau â Chynghorau Tref a Chymuned. Bydd y toiledau cyhoeddus yn aros ar agor am gyfnod dros dro.

Bydd y toiledau ar gau dros dro o bryd i’w gilydd yn sgil fandaliaeth neu broblemau cynnal a chadw.  Gwiriwch y rhestr o doiledau cyhoeddus am wybodaeth ynghylch toiledau sydd ar gau dros dro. 

Gorffennaf 2024: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaethau toiledau cyhoeddus, gyda rhai toiledau’n cau tra bod eraill mewn adeiladau’r Cyngor yn cael eu gwneud ar gael i’r cyhoedd.


Bydd 21 o gyfleusterau toiledau cyhoeddus yn parhau ar agor ar draws y sir, rhai ar sail dymhorol o’r Pasg tan wythnos gyntaf mis Medi. Tra bydd 19 o doiledau mewn adeiladau Cyngor ar gael i bawb eu defnyddio, ynghyd â thoiledau mewn busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Toiledau Cymunedol y Cyngor.

Rhestr o doiledau cyhoeddus yn Sir Conwy

Cwestiynau cyffredin am doiledau cyhoeddus

Mae’n ofynnol i bob un o wasanaethau’r Cyngor ddod o hyd i arbedion ariannol sylweddol ar gyfer 2024/25, gan gynnwys yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau. Fel rhan o hyn, rydym yn adolygu’r dewisiadau ar gyfer toiledau cyhoeddus.

Nid oes gennym bellach y gyllideb i gymorthdalu toiledau cyhoeddus, felly mae’n rhaid i ni adennill costau rhedeg o gyfleusterau y telir amdanynt.

Rydym wedi ystyried pa mor aml mae’r cyfleusterau’n cael eu defnyddio, ymhle mae’r toiledau eraill sydd ar gael, a pha mor aml mae’r cyfleusterau’n cael eu fandaleiddio.

Mae cau toiledau’n benderfyniad anodd i ni ei wneud, ac rydym yn deall y bydd pobl yn bryderus am hyn.

Faint o doiledau fydd yn parhau ar agor?

Bydd 21 o doiledau cyhoeddus yn parhau ar agor, rhai ohonyn nhw ar sail dymhorol. Bydd 19 o doiledau cyhoeddus mewn adeiladau Cyngor ar gael i’w defnyddio, ynghyd â thoiledau mewn busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer ein cynllun toiledau cymunedol.

Sut ydych chi wedi penderfynu pa doiledau fydd yn cau?

Rydym wedi ystyried pa mor aml mae’r cyfleusterau’n cael eu defnyddio a pha mor agos ydyn nhw at doiledau cyhoeddus eraill sydd ar gael.  Rydym hefyd wedi ystyried pa mor aml mae’r cyfleusterau'n cael eu fandaleiddio a’r costau trwsio parhaus.

Pam ydych chi’n cau toiledau mewn lleoliadau twristaidd megis promenâd Bae Colwyn?

O ran ein cyfleusterau mewn lleoliadau twristaidd poblogaidd, rydym wedi sicrhau fod y toiledau ar gael yn dymhorol, fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd hyn yn bosibl ar gyfer bob un o’r cyfleusterau presennol.

A ydych wedi cynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb?

Rydym wedi cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y Strategaeth Toiledau Lleol. Drwy gynnal y strategaeth hon, rydym yn sicrhau fod cyfleusterau ar gael yn adeiladau’r Cyngor ac yn gweithio i gynyddu nifer y busnesau addas sy’n cofrestru ar gyfer y cynllun toiledau cymunedol. Bydd y camau hyn yn gwella’r gwasanaeth toiledau cyhoeddus i bob defnyddiwr –  bydd dros 40 o doiledau cyhoeddus ar gael i’w defnyddio.

Pam bod rhai toiledau am ddim yn parhau ar agor? Oni ddylid codi tâl ar bob toiled i helpu i dalu’r costau?

Rydym yn ystyried codi tâl yn y toiledau a fydd yn parhau ar agor ond sydd am ddim ar hyn o bryd, ond mae costau ynghlwm â hyn ac fe fydd yn cymryd peth amser.

A ydym yn gallu defnyddio toiledau yn adeiladau’r Cyngor, megis Coed Pella, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden?

Ydych. Mae’r toiledau hyn wastad wedi bod ar gael i bobl sy’n defnyddio’r adeilad a bydd y cynnig hwn yn cael ei ymestyn er mwyn i’r cyhoedd yn gyffredinol fedru cael mynediad at y toiledau. Mae 19 o doiledau cyhoeddus yn adeiladau Cyngor ar gael i’w defnyddio.

Onid yw Cynghorau Tref a Chymuned yn gallu helpu i gadw toiledau ar agor?

Mae 4 o doiledau cyhoeddus sy’n cael eu rhedeg gan Gynghorau Tref a Chymuned, ym Mhenmachno, Dolwyddelan, Llansannan a Llangernyw. Rydym hefyd yn derbyn nawdd gan Gyngor Tref Abergele, Cyngor Tref Conwy, Cyngor Cymuned Llanfair TH a Chyngor Cymuned Trefriw tuag at gadw’r toiledau ar agor yn yr ardaloedd hyn. Byddem yn croesawu Cynghorau Tref a Chymuned eraill i wneud yr un fath ac rydym yn parhau i drafod hyn gyda nhw.

Pam mai dim ond yn dymhorol fydd rhai o’r toiledau’n agor? Pa fisoedd fydd hynny’n ei gynnwys?

Bydd rhai toiledau ar agor o fis Mawrth tan fis Hydref - bydd hyn yn lleihau’r costau gweithredu ond yn cadw’r toiledau ar agor yn ystod cyfnod prysuraf y flwyddyn. Mae toiledau yn adeiladau’r Cyngor a busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun toiledau cymunedol ar agor drwy gydol y flwyddyn.

A ydych wedi ystyried cynyddu’r ffi er mwyn i chi fedru cadw mwy o doiledau ar agor? Byddai’n well gennyf dalu £1 i gadw cyfleusterau ar agor.

Rydym yn ymwybodol nad yw pawb yn talu’r ffi gyfredol - mae pobl yn dal y drws ar agor er mwyn i’r defnyddiwr nesaf fedru osgoi talu’r ffi a defnyddio’r cyfleuster a’r cyflenwadau am ddim. Ni fyddai cynyddu’r ffi’n newid yr ymddygiad hwn, a byddem yn dal i golli’r incwm sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth.

Oes angen i mi dalu ac os felly, sut?

Mae'n rhaid talu i ddefnyddio rhai o'n cyfleusterau. Mae cyfarwyddiadau ar y drws yn egluro sut i ddefnyddio’r peiriant talu gyda darnau arian. Peidiwch â cheisio dal y drysau ar agor - bydd hyn yn gwneud difrod i’r cloeon ac yn golygu na fydd modd defnyddio’r toiledau.

Pam nad oes yna rywun yn gofalu am bob toiled cyhoeddus?

Bydd staff ar y safle drwy’r dydd yn y cyfleusterau prysuraf a bydd staff eraill yn teithio rhwng toiledau cyhoeddus.

Cynllun Toiledau Cymunedol

Mae’r Cynllun Toiledau Cymunedol yn cael ei ariannu a’i reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio cyfleusterau toiled i gymeradwyo busnesau lleol yn ystod eu horiau agor.

toilet-imageMae croeso i chi ddefnyddio'r toiledau hyn heb brynu dim os ydych yn gweld yr arwydd hwn.

Rhestr o doiledau cymunedol yn Sir Conwy

Oes gennych chi ddiddordeb i’ch busnes ymuno â’r cynllun? Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais. 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?