Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Partneriaeth Pobl Conwy – Amdanom ni


Summary (optional)
Rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Pobl Conwy, gan gynnwys yr hyn y mae'r bartneriaeth yn ei wneud, pwy mae’r bartneriaeth yn ei chynnwys a'r newyddion diweddaraf.
start content

Beth yw Partneriaeth Pobl Conwy?

Mae Partneriaeth Pobl Conwy yn grŵp cynllunio strategol sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth eang o wasanaethau sy'n ymwneud â’r holl gymunedau yng Nghonwy.

Gweledigaeth Conwy ar gyfer y bartneriaeth yw 'Gweithio Gyda'n Gilydd dros Les'.

Beth mae'r bartneriaeth yn ei wneud

Yma yn y bartneriaeth rydym yn gweithio i sicrhau bod yr holl bobl a chymunedau yng Nghonwy yn cael eu trin yn deg ac yn unol â'u hanghenion.


Pwy sy'n cymryd rhan ym Mhartneriaeth Pobl Conwy?


Mae sefydliadau’n cynnwys:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

 Am restr lawn o aelodaeth Bwrdd PPC a’r COG cysylltwch â'r tîm: ppc@conwy.gov.uk

Sut i gysylltu â ni:

Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
E-bost: ppc@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574077


Beth sydd wedi bod yn digwydd?

Ein newyddlen yw'r ffordd orau i gael y newyddion diweddaraf gan y bartneriaeth a'r asiantaethau partner, os hoffech gael ein bwletin e-bost rheolaidd rhowch wybod i ni: ppc@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content