Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Plant sy'n derbyn gofal


Summary (optional)
Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ddarparu ar gyfer pob plentyn na allant fyw gyda’u teuluoedd a gofalu amdanynt, am resymau megis salwch, esgeulustra neu gam-drin.
start content

Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plant mewn gofal

Mae gan Weithwyr Cymdeithasol ystod o opsiynau llety yn dibynnu ar anghenion unigol pob plentyn. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod safon y gofal y mae'r plentyn yn ei dderbyn o'r safon uchaf bosibl.

Beth yw Plentyn sy'n Derbyn Gofal?

Pan fydd Conwy yn lleoli plentyn neu berson ifanc, bydd yn gwneud hynny yn unol â'r gyfraith. Mae'r rhain yn gyffredinol yn perthyn i ddwy ran o Ddeddf Plant 1989, yn gyntaf:

Adran 76 - dyma lle mae plentyn yn cael ei letya yn wirfoddol, gyda chaniatâd yn cael ei roi gan y person sy'n dal cyfrifoldeb rhiant. O dan Adran 76, nid yw’r Awdurdod Lleol ag unrhyw gyfrifoldeb rhiant. Dylai Llety o dan Adran 76 fod yn y tymor byr yn unig.

Adran 31 – dyma’r adran lle mae’r Awdurdod Lleol â phryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi dioddef niwed sylweddol naill ai drwy esgeulustod, cam-drin neu drwy fod y tu hwnt i reolaeth rhieni. Yn yr achosion hyn gall Conwy wneud cais i'r llys am Orchymyn Gofal a fyddai'n caniatáu i'r Awdurdod Lleol rannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn gyda'r rhieni.

Yn y ddau achos hyn, mae'r Awdurdod Lleol â chyfrifoldeb rhianta corfforaethol, i ddarparu gofal o safon uchel.

Sut ydym yn cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal?

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yr un fath â'r holl rieni. Rydym am iddynt fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Rydym am iddynt gyrraedd eu potensial addysgol a chael yr un mynediad i bob agwedd ar y cwricwlwm ag unrhyw blentyn arall.

Ydych chi'n gofalu am blentyn rhywun arall? Os felly gallech fod mewn 'Trefniant Maethu Preifat'. Er nad yw cyllid ar gael ar gyfer y trefniadau hyn, mae'n rhaid i chi neu riant y plentyn roi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol am y sefyllfa ddisgwyliedig hon, 6 wythnos cyn i'r trefniant ddechrau. Mewn argyfwng, dylech roi gwybod i ni o fewn 48 awr.

Mae pob Plentyn sy'n Derbyn Gofal yn cael ei Weithiwr Cymdeithasol ei hun.

Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm 01492 575111
  • Yn y nos, ar benwythnosau a gwyliau banc: 0300 123 3079

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content