Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Newid terfyn cyflymder 15 o ffyrdd yn ôl i 30mya yng Nghonwy

Newid terfyn cyflymder 15 o ffyrdd yn ôl i 30mya yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Newid terfyn cyflymder 15 o ffyrdd yn ôl i 30mya yng Nghonwy

Arwydd terfyn cyflymder o 30mya

Terfyn Cyflymder 30mya

Ar 17 Awst, bydd terfynau cyflymder o 30mya yn dod i rym yn y lleoliadau canlynol yn Sir Conwy:

  • Ffordd Colwyn, Craigside
  • Ffordd Glan y Mor, Bae Penrhyn
  • Ffordd Llandudno, ger Coleg Llandrillo
  • Ffordd Conwy, Llanrhos
  • Bryn Lupus Road, Llanrhos
  • Ffordd Bwlch Sychnant, Conwy
  • Ffordd Llanrwst, Gyffin
  • B5279 Tal-y-Cafn i Ffordd Tyn-y-Groes
  • Ffordd Gwydyr, Dolgarrog
  • Ffordd Abergele, Hen Golwyn
  • Ffordd Llanrwst, Bae Colwyn i Bryn y Maen
  • B5106 Caerhun i Ffordd Llanrwst, Ty’n y Groes
  • Rhodfa Llanelwy, Bae Cinmel
  • Marine Drive, Llanrillo -yn-Rhos
  • Rotary Way, Bae Colwyn

Daeth y terfyn cyflymder diofyn o 20mya i rym yng Nghymru yn 2023, a bu i’r Cyngor eithrio 21 o rannau o ffyrdd, gan gadw terfyn cyflymder y rhain ar 30mya.

Gwahoddodd Llywodraeth Cymru bobl ar draws Cymru i gysylltu â’u Cyngor lleol i roi adborth ar y newidiadau hyn yn 2024. Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 702 o sylwadau unigol yn ymwneud â 149 o rannau o ffyrdd.

O’r rhannau o ffyrdd y cyfeiriwyd atynt yn yr adborth hwn, lluniodd y Cyngor restr blaenoriaeth o ffyrdd A a B gan ddefnyddio’r Meini Prawf Lle a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

Gwahoddwyd pobl sy’n byw neu’n gweithio yn y lleoliadau hyn i roi eu barn am y newid i’r terfyn cyflymder.

Mae’r rhestr o rannau o ffyrdd a fydd yn newid yn ôl i 30mya bellach wedi’i chwblhau.

Meddai’r Cynghorydd Michael Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd ac Isadeiledd, “Bu i ni geisio barn y gymuned, ac rydym ni wedi gwrando! Rydw i’n falch iawn bod y rhestr o ffyrdd a fydd yn newid yn ôl i 30mya bellach wedi’i chwblhau, gan roi ystyriaeth i ddymuniadau trigolion a busnesau lleol.”

Bydd copïau o’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i’w gweld yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella neu ar lein yn Amryw Ffyrdd - Terfyn Cyflymder 30mya - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 14/08/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content