Cartref Newyddion Eitemau newyddion Trafodaethau cyllideb 2027/28 yng Nghonwy
start content

Trafodaethau cyllideb 2027/28 yng Nghonwy

Cyfrifiannell a thaenlen

Cyllideb 2027/28

Bydd y Cynghorwyr yn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod y rhagolwg ariannol a’r sefyllfa gyllidebol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Wrth siarad cyn cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau, dywedodd y Cyng. Chris Cater, Aelod Cabinet Cyllid Conwy: “Dyma'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau yn y cyfnod sy’n arwain at y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2027/28.

“Mae’n darparu manylion rhagarweiniol ynghylch y pwysau ariannol sylweddol yr ydym yn eu hwynebu a’r dewisiadau y bydd yn rhaid i ni eu hystyried a'u trafod o fewn y broses ddemocrataidd. Mae hyn wedi dechrau eisoes, gyda nifer o Weithgorau’r Gyllideb yn cael eu cynnal, ac mae’r holl Aelodau Etholedig wedi cael eu gwahodd iddynt.

“Bydd y setliad Llywodraeth Leol a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru yn arwain at oblygiadau sylweddol o ran ein rhagdybiaethau cyllidebol, ond bydd y diffyg adnoddau yn parhau o ystyried pwysau’r galw am wasanaethau a chwyddiant.

“Fel y llynedd, y dewisiadau sydd gennym i fynd i'r afael â'r diffyg adnoddau yw lleihau cyllidebau / creu arbedion, cynyddu Treth y Cyngor a defnyddio cyllid anghylchol (cronfeydd wrth gefn a balansau). Byddai risgiau cynhenid ynghlwm â phob un o’r dulliau hyn a byddai’n rhaid i’r Aelodau Etholedig eu dadansoddi, eu hystyried a gwneud penderfyniadau yn eu cylch.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2027/28 ar 17 Tachwedd 2026 ac yn cyhoeddi'r setliad llywodraeth leol dros dro ar 2 Rhagfyr 2026.

Bydd cynghorwyr yn parhau i dderbyn diweddariadau rheolaidd a chyfleoedd i drafod y gyllideb dros y misoedd nesaf.

Bydd y Cyngor llawn yn cyfarfod ar 4 Mawrth 2027 i gadarnhau a chytuno ar y gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2027/28.

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau: Gellir darllen yr adroddiad a’r atodiadau a gwylio’r cyfarfod yma: Democratiaeth Lleol Conwy : Rhaglen ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Dydd Llun 16 Tachwedd 2026, 10.00 am

Wedi ei bostio ar 12/11/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content