Canlyniadau Safon Uwch 2025

Y Cyng Julie Fallon
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy, “Hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr ar draws y Sir am eu cyflawniadau yn yr arholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol eleni.
“Dymunaf yn dda iawn iddynt wrth iddynt benderfynu ar eu gyrfaoedd ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n siŵr y byddent oll yn ymuno â mi i ddiolch i’w rhieni, teuluoedd, ein hathrawon a staff cefnogi ardderchog sydd wedi eu cynorthwyo a’u cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau.”
Wedi ei bostio ar 14/08/2025