Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canlyniadau Safon Uwch 2026
start content

Canlyniadau Safon Uwch 2026

Dosbarth

Dosbarth

Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion sydd wedi casglu eu canlyniadau bore ma.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Rydw i eisiau dechrau drwy ddweud llongyfarchiadau gwresog wrth bob un ohonoch chi sydd wedi derbyn eich canlyniadau y bore ’ma.

“Rydw i’n gwybod faint o waith caled, ymroddiad a gwytnwch rydych chi wedi ei roi i gyrraedd y fan hyn, ac fe ddylech chi fod yn hynod o falch o’ch hunain; a dwi’n siŵr bod eich teulu, eich ffrindiau a’ch athrawon sydd wedi eich cefnogi chi ar hyd y daith fod yn falch ohonoch chi hefyd.

“Beth bynnag ydy’ch cam nesaf chi – boed yn brifysgol, prentisiaeth, gwaith neu rywbeth hollol wahanol – rydw i’n dymuno pob llwyddiant i chi wrth i chi ddechrau’r bennod newydd gyffrous yma.

“Cymerwch amser i ddathlu’r hyn rydych chi wedi ei gyflawni, mwynhewch weddill yr haf ac edrychwch ymlaen gyda hyder.”

Wedi ei bostio ar 13/08/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content