Canfasiad blynyddol 2026 ar y gweill

Peidiwch â cholli eich pleidlais
Peidiwch â cholli eich pleidlais – anogir trigolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy i wirio manylion cofrestru pleidleisiwr
Anogir trigolion Conwy i wirio eu manylion cofrestru etholiadol neu wynebu’r posibilrwydd o golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Gydag etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn digwydd ym mis Mai 2027, mae hwn yn gyfle i drigolion wneud yn siŵr y gallant gymryd rhan.
Mae'r canfasiad blynyddol yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau a’u hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Dywedodd Rhun ap Gareth, Swyddog Cofrestru Etholiadol Conwy: “Cadwch olwg am ddiweddariadau pwysig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir ac yn gyfredol. Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn colli’r cyfle i ddweud eich dweud mewn unrhyw etholiadau sydd ar y gweill yng Nghymru, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch.
“Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y diweddariadau rydym yn eu hanfon. Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio”
Anogir yn benodol y rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar i wirio eu manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol wedi canfod bod y rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rhai sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “Mae'n bwysig iawn bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Rydym yn annog pobl i gadw golwg am ddiweddariadau gan eu cyngor lleol ar y canfasiad eleni. Gall y cyngor gysylltu â thrigolion drwy’r post neu e-bost.
“Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’ch cyngor lleol pan ofynnir i chi wneud hynny a chofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”
Mae gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Gall trigolion sydd â chwestiynau ynghylch eu statws cofrestru gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol Conwy yn etholiadol@conwy.gov.uk neu (01492) 576051 / 576052.
Wedi ei bostio ar 08/07/2026