Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgyrch Gwrth-fêpio - Wythnos Gwaith Ieuenctid

Ymgyrch Gwrth-fêpio - Wythnos Gwaith Ieuenctid


Summary (optional)
start content

Ymgyrch Gwrth-fêpio - Wythnos Gwaith Ieuenctid

Anti-Vaping Poster

Posteri Gwrth-fêpio

Mae pobl ifanc Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy wedi bod yn amlygu peryglon fêpio drwy chwalu esgusodion cyffredin a wneir gan bobl sy’n fêpio.

Cafodd fêpio ei archwilio gan aelodau Cyngor Ieuenctid Conwy, sydd rhwng 11 a 24 oed, mewn sesiynau a oedd hefyd yn edrych ar effaith gwahardd fêps untro. Edrychodd y bobl ifanc ar yr atebion a roddwyd i esgusodi fêpio er mwyn creu ymgyrch i annog eu cyfoedion i beidio â dechrau fêpio yn y lle cyntaf.

Tra bod fêps yn cael ei ystyried yn saffach na sigaréts i oedolion sy’n ysmygu’n barod, mae’r rhan fwyaf yn cynnwys nicotin sy’n gaethiwus iawn. Mae hi hefyd yn anghyfreithiol gwerthu fêps i unigolion dan 18 oed.

Nod y gwaharddiad ar fêps untro, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin, ydi lleihau effaith amgylcheddol eitemau untro rhatach, sy’n cynnwys plastig, batris a chemegau, ac sy’n aml iawn yn cael eu taflu ar lawr. Mae’r gwaharddiad hefyd yn cael ei groesawu gan sefydliadau iechyd oherwydd ei fod yn annog pobl ifanc i beidio â dechrau fêpio.

Gweithiodd y Cyngor Ieuenctid gyda staff Gwasanaethau Rheoleiddio Conwy i ddeall materion fêpio yn well. Bu iddyn nhw wedyn greu posteri, sy’n amlygu’r esgusodion cyffredin dros fêpio, ynghyd ag animeiddiad. Bydd y posteri yn cael eu gosod mewn canolfannau addysg a chyfleusterau ieuenctid, gyda’r nod o berswadio pobl ifanc i roi’r gorau i fêpio neu i beidio â dechrau fêpio yn y lle cyntaf.

Meddai’r Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg, sy’n gyfrifol am Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn: “Gall aelodau ein Cyngor Ieuenctid chwarae rôl bwysig fel eiriolwyr dros bobl ifanc eraill a chael dylanwad cadarnhaol ar eu cyfoedion. Rydym ni’n falch iawn o’r ffordd maen nhw wedi defnyddio’r wybodaeth a gawson nhw yn y sesiynau i greu negeseuon a fydd yn cael yr effaith fwyaf.”

 

Cefndir:

Mae Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy ar gyfer pobl ifanc 11–24 oed sy’n byw yn Sir Conwy. Mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys clybiau ieuenctid a gweithgareddau, cyfleoedd i wneud Gwobr Dug Caeredin, cymorth i gael gwaith a chyngor am les.

Mae’r gwasanaethau ieuenctid yn ceisio cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw bontio i fod yn oedolion, gan eu helpu i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau, trwy weithgareddau a pherthnasoedd cadarnhaol.

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid (23-30 Mehefin) yn gyfle i ddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu gwaharddiad ar anweddau tafladwy - Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

 

Wedi ei bostio ar 27/06/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content