Gwahodd ceisiadau ar gyfer Cronfa Effaith Balchder Bro

Cronfa Effaith Balchder Bro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn lansio Cronfa Effaith Balchder Bro £1.5 miliwn i fod o fudd i fannau cymunedol, parciau, strydoedd mawr a mannau cyhoeddus ar draws y sir.
Mae Sir Conwy wedi cael £1.5 miliwn o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU, sy’n darparu cefnogaeth wedi’i thargedu yn y tymor byr.
Yn Sir Conwy, nod y cyllid yw darparu gwelliannau gweledol erbyn mis Mawrth 2027.
Mae'r amcanion yn cynnwys:
- Mannau Cymunedol - creu, adnewyddu neu ehangu cyfleusterau a galluogi sefydliadau cymunedol i wella asedau lleol gwerthfawr.
- Mannau Cyhoeddus - gwella mannau gwyrdd, ardaloedd chwarae, mannau hamdden neu dodrefn stryd.
- Adfywio’r Stryd Fawr - gwella blaen siopau, dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chreu canol trefi bywiog.
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor ac mae’r Cyngor yn gwahodd ceisiadau gan:
- Sefydliadau cymunedol (gan gynnwys cynghorau tref a chymuned) i ddarparu prosiectau yn Sir Conwy lle mae tystiolaeth glir o’r angen yn lleol.
- Busnesau mewn trefi blaenoriaeth sy’n cyflawni prosiectau a all gyfrannu tuag at adfywio’r Stryd Fawr a chanol tref.
Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn cynnig grantiau cyfalaf i brosiectau ar draws y sir. Mae’n rhaid i’r prosiectau gynnwys gwelliannau ffisegol sy’n gwneud gwahaniaeth parhaus - nid yw gwaith cynnal a chadw arferol a chostau rhedeg yn gymwys.
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu Conwy: “Rwy’n falch iawn bod y gronfa ar agor i geisiadau ac y bydd cymunedau lleol yn gallu penderfynu ar brosiectau addas a mwynhau’r gwelliannau gweledol i fannau cyhoeddus a chymunedol. Rwy’n annog sefydliadau cymunedol a busnesau i gyflwyno eu ceisiadau cyn gynted ag sy’n bosibl.”
Dywedodd Claire Hughes, AS Bangor Aberconwy: “Pobl leol sy’n gwybod orau wrth benderfynu beth sydd ei angen ar eu cymuned. Felly rwy’n falch iawn bod y Llywodraeth yn rhoi pŵer – a chyllid – yn eu dwylo nhw, ac rwy’n edrych ymlaen at weld prosiectau cyffrous yn datblygu.”
Dywedodd Gill German, AS Gogledd Clwyd: “Rwyf wrth fy modd o weld bod yr arian hwn gan Lywodraeth y DU yn dod i Gonwy. Mae Cronfa Effaith Balchder Bro wedi’i llunio i fuddsoddi mewn cymunedau ar draws y wlad, gan helpu i adfer balchder mewn ardaloedd lleol trwy welliannau i gyfleusterau cymunedol, mannau cyhoeddus a strydoedd mawr. Rwy’n gwybod yn sgil fy ngwaith gyda chymunedau yng ngogledd Clwyd bod nifer o brosiectau a allai elwa’n fawr o’r cyllid hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ceisiadau’n cael eu cyflwyno a’r effaith gadarnhaol fydd y buddsoddiad hwn yn ei chael ar ein hardal leol.”
I gael rhagor o wybodaeth, ac i gael copi o’r Canllawiau Llawn a’r Ffurflen Gais, gall sefydliadau cymunedol a busnesau gysylltu â Thîm Cyllid Conwy ar CronfaEffaith.BalchderBroConwy@conwy.gov.uk
Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar-lein ar: Cronfa Effaith Balchder Bro - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17/04/26.
Mae’n rhaid cwblhau prosiectau a gaiff eu hariannu erbyn 31 Mawrth 2027.
Cronfa Effaith Balchder Bro: Cafodd Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU ei chyhoeddi y llynedd, a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ynghyd ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru, yn derbyn £1.5 miliwn mewn cyllid cyfalaf dros ddwy flynedd. Bydd y gronfa yn rhedeg tan fis Mawrth 2027, a chaiff prosiectau eu dewis a’u darparu fesul cam.
Prosbectws: Pride in Place Impact Fund: prospectus - GOV.UK
Mae’r Gronfa Effaith yn ychwanegol at gyllid Rhaglen Balchder Bro a ddyfarnwyd i brosiectau yng nghymdogaeth Mostyn a Tudno yn Llandudno.
Wedi ei bostio ar 27/02/2026