Bingo Llyfrau gyda Llyfrgelloedd Conwy

Bingo Llyfrau
Yr haf hwn lansiodd Llyfrgelloedd Conwy eu her ddarllen gyntaf i oedolion, Bingo Llyfrau, er mwyn annog darllenwyr 18+ i roi cynnig ar awduron, fformatau a genres newydd.
Gallwch gasglu eich cerdyn Bingo o’ch llyfrgell leol a chwblhau tri bocs mewn unrhyw gyfeiriad i gymryd rhan.
Unwaith rydych wedi darllen llyfr bydd staff y llyfrgell yn stampio eich cerdyn, a phan rydych wedi cwblhau llinell o dri, byddwch yn cael gwobr ar thema llyfrgell.
Os ydych chi’n gwrando ar lyfrau sain, yn darllen print mawr, neu’n defnyddio Borrowbox neu uLibrary - gellir cwblhau’r her mewn unrhyw fformat.
Rhedodd Llyfrau Bingo ar y cyd â ‘Sialens Ddarllen yr Haf’, cynllun cenedlaethol a ddaeth i lyfrgelloedd cyhoeddus gan yr Asiantaeth Ddarllen, i gefnogi darllen ar gyfer plant 4 i 11 oed yn ystod gwyliau’r ysgol.
Hyd yn hyn mae tua 150 o ddarllenwyr wedi cofrestru ar gyfer y Bingo Llyfrau ers iddo ddechrau ym mis Awst ac mae ein llyfrgelloedd yn parhau i ymestyn yr her i’r hydref
hyd at y Nadolig - ystyriwch lyfrau cysurus a dirgelwch troseddol.
Dywedodd aelod o lyfrgell Penmaenmawr a gwblhaodd yr her yn ddiweddar, “Mae’n braf cael her ddarllen ar gyfer oedolion dros yr haf, fel y gallwn ymuno â’r rhai iau pan fyddent yn dechrau eu Her Ddarllen yr Haf. Yn ogystal â gwneud i ni archwilio llyfrau na fyddem fel arfer yn eu dewis, rydym hefyd yn cael bag tote llyfrau! Bonws!”
Beth am ddod draw i gofrestru ar gyfer yr her? Ehangwch eich darllen yr hydref hwn!
Gallwch ddarllen y telerau ac amodau ar gefn eich cerdyn Bingo i ganfod mwy ar sut i chwarae.
Llyfrgelloedd Conwy | Llyfrgelloedd Conwy
Wedi ei bostio ar 17/09/2025