Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Bryn Euryn Nurseries and Café officially opened

Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn yn agor yn swyddogol


Summary (optional)
start content

Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn yn agor yn swyddogol

Bryn Euryn Official Opening 15 May 2025

Agoriad swyddogol Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn

Agorwyd Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn yn swyddogol ddydd Iau (15/05/25).

Mae canolfan arddio, siop a chaffi pwrpasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar Dinerth Road yn Llandrillo-yn-Rhos ar agor i’r cyhoedd ac mae’n darparu gwasanaeth mentora cyflogaeth i bobl ag anableddau sydd eisiau cael cyflogaeth am dâl. 

Croesawyd gwesteion i ddadorchuddiad swyddogol y plac, ac yna cafwyd cyfleoedd tynnu lluniau gyda gwesteion arbennig o Glwb Rygbi Stingrays Bae Colwyn.  

Roedd staff a defnyddwyr gwasanaeth ar gael i groesawu gwesteion a darparu teithiau tywys a rhannu eu profiadau. 

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Conwy: “Roeddwn i’n falch o gael agor Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn yn swyddogol. Rwy’n falch y bydd cyllid cyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda chyllid ychwanegol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn galluogi i’r tîm yma ganolbwyntio ar gefnogi pobl ag anableddau dysgu i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen at gyflogaeth am dâl.”

Dywedodd y Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig: “Mae’r datblygiad hwn yn rhan o’n gweledigaeth hirdymor i Wasanaethau Cymdeithasol Conwy, gan ein helpu i ddarparu ein gwasanaethau mewn amgylchedd pwrpasol, o ansawdd uchel.

“Rydym yn falch o fod yn arwain newid cadarnhaol ar gyfer y rhai ag anableddau sydd am ddechrau eu gyrfaoedd, tra'n sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad o'r ansawdd gorau.

“Mae’r staff a defnyddwyr gwasanaeth Bryn Euryn yn gyffrous i fod yn gweithio ar safle newydd mor wych, ac rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn ganolbwynt i’r gymuned leol -gan gynnig gofod agored a llachar lle gall pobl gyfarfod, siopa, bwyta ac ymlacio.” 

Cafodd yr ailddatblygiad ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Wynne Construction o Fodelwyddan oedd y contractwr.

Mae cyllid ychwanegol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cefnogi costau contract y staff a’r caffi.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws - GOV.UK

Mae Stingrays Bae Colwyn yn glwb rygbi gallu cymysg sydd wedi’i addasu i bobl ag anableddau sy’n 14 oed a hŷn ar draws Gogledd Cymru.

Mae Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn yn cael ei reoli gan Wasanaeth Anableddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a agorodd ei ddrysau i gwsmeriaid yn yr hydref 2024.

Caiff y caffi ei weithredu gan Hft.  Gwybodaeth am Hft - gwasanaethau cymorth i oedolion ag anableddau dysgu

Mae Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn wedi’i leoli ar y safle wrth ymyl canolfan seibiant anableddau Bron y Nant, a agorwyd yn swyddogol ym mis Mawrth gan Dawn Bowden AS.  Wynne Construction o Fodelwyddan oedd y contractwr ar gyfer y ddau safle.

Wedi ei bostio ar 20/05/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content