Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dal ati i drafod y gyllideb yng Nghonwy

Dal ati i drafod y gyllideb yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Dal ati i drafod y gyllideb yng Nghonwy

Spreadsheet

Cyllideb 2026/27

Mae gwaith yn dod yn ei flaen yng Nghonwy i lunio cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27 cyn i’r Cyngor Llawn gwrdd i’w thrafod ym mis Mawrth.

Bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau a’r Cabinet yn ystyried adroddiad manwl am y gyllideb yr wythnos nesaf.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r setliad terfynol i lywodraeth leol yn 2026/27 ar 10 Ionawr.  Er bod y setliad wedi cynyddu 4.5% ar gyfartaledd yng Nghymru, mae setliad Conwy o 4.1% yn gydradd isaf â phedwar o gynghorau eraill.

Mae’r setliad yn ffurfio 71.6% o’r cyllid ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor y flwyddyn nesaf.

Meddai’r Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Cyllid a Chynllunio Strategol: “Bydd Aelodau Etholedig yn ymwybodol o’r bwlch ariannol yr ydym yn ei wynebu yng Nghonwy a’r ffaith nad yw’r bron i £11 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r pwysau’n ddigon i lenwi’r bwlch hwn.

“Mae risgiau cynhenid ynghlwm â phob opsiwn i bontio’r bwlch wrth i ni ganolbwyntio ar gyflwyno Cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27 i’w chymeradwyo gan y Cyngor Llawn. Mae’r Cabinet wedi cefnogi’r achosion busnes yn llwyr, ond wedi derbyn y daw £2.236 miliwn o arbedion gan wasanaethau. Mae hyn yn eithrio ysgolion - rydym wedi cynnig bod ysgolion yn cael eu neilltuo a’u hariannu ar sail sefydlog, heb unrhyw ostyngiadau.

“Mae’n rhaid sicrhau bod digon o falansau i ymdrin â digwyddiadau annisgwyl a lliniaru risgiau. Costau untro yw’r rhain ac rydym wedi derbyn cyngor gan ein Swyddog A151 y dylem, os unrhyw beth, geisio cynyddu lefel y cronfeydd wrth gefn i barhau i ddarparu gwytnwch priodol. Cynigir defnyddio £100000 o’r arian wrth gefn ac eglurir hyn yn yr adroddiad.

“Wrth ystyried pob ffactor, rhai cadarnhaol a negyddol, y diffyg diwygiedig sy’n weddill yw £5.632 miliwn. O ganlyniad, bydd angen cyfraniad sylweddol drwy gynyddu Treth y Cyngor. Mae’r adroddiad yn cynnig cynnydd o 6.09% ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a 0.41% ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.”

Darllenwch yr adroddiadau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau a gwyliwch y gweddarllediad yma: Democratiaeth Leol Conwy: Rhaglen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau ddydd Llun, 23 Chwefror 2026, 10.00 am

Darllenwch adroddiadau’r Cabinet a gwyliwch y gweddarllediad yma: Democratiaeth Leol Conwy: Rhaglen y Cabinet ddydd Mawrth, 24 Chwefror 2026, 2.00 pm

Bydd y Cyngor Llawn yn cwrdd ar 5 Mawrth 2026 i gadarnhau a chymeradwyo’r Gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2026/27.

Wedi ei bostio ar 18/02/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content