Aelod Cabinet yn Croesawu Buddsoddiad Mawr yng Ngwasanaethau Bysiau Gogledd Cymru

Bysiau Newydd Arriva
Mae Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd ac Isadeiledd Conwy yn croesawu buddsoddiad o £10 miliwn mewn bysiau newydd a fydd yn gwasanaethu cymunedau ar hyd arfordir gogledd Cymru.
Mae’r Cynghorydd Mike Priestley wedi croesawu buddsoddiad o £10 miliwn gan Arriva Cymru mewn 33 o fysiau deulawr newydd, sydd bellach yn weithredol ar lwybrau allweddol sy’n cysylltu cymunedau ar hyd arfordir gogledd Cymru, gan gynnwys gwasanaethau sy’n cysylltu’r Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno.
Mae’r cerbydau Wrightbus newydd yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £15 miliwn mewn 59 o fysiau newydd ledled gogledd Cymru sy’n cynnwys gwell hygyrchedd, cyhoeddiadau clyweledol am yr arhosfan nesaf a chyfleusterau gwefru USB, gan helpu i ddarparu profiad mwy modern a chyfforddus i deithwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Priestley:“Rwy’n croesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn gwasanaethau bysiau sy’n gwasanaethu ein cymunedau ledled Conwy ac ar hyd arfordir gogledd Cymru.
“Mae cludiant cyhoeddus dibynadwy yn hanfodol er mwyn helpu preswylwyr i gael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd a chyfleoedd hamdden, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n diwydiant twristiaeth ar yr un pryd.
“Bydd y bysiau newydd hyn yn darparu gwasanaeth mwy dibynadwy, glân, diogel a gwyrdd i deithwyr. Mae cerbydau modern nid yn unig yn fwy cyfforddus a hygyrch ond maent hefyd yn helpu i wella perfformiad amgylcheddol, cefnogi dyheadau ehangach i leihau gollyngiadau ac annog teithio mwy cynaliadwy.
“Mae cymunedau o’r Rhyl trwodd i Fae Colwyn a Llandudno yn dibynnu ar gysylltiadau cludiant cryf, ac mae buddsoddiadau fel hyn yn dangos hyder yn nyfodol cludiant cyhoeddus ar draws ein rhanbarth.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn annog hyd yn oed yn fwy o bobl i ddewis defnyddio’r bws ar gyfer siwrneiau bob dydd, gan helpu i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd a chefnogi gogledd Cymru fodern a chysylltiedig.”
Llun: Richard Hoare, Rheolwr Gyfarwyddwr Arriva Gogledd a Chymru gyda’r Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Conwy a 3 bws deulawr Wrightbus newydd sbon sydd bellach yn weithredol ar brif lwybrau.
Wedi ei bostio ar 16/11/2026