Cabinet yn cymeradwyo Buddsoddiad o £10 miliwn yn Venue Cymru

Argraffiad Arlunydd ar gyfer Venue Cymru
Cymeradwywyd cynlluniau drafft ar gyfer prosiect Dyfodol Venue Cymru gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yng Nghoed Pella ddydd Mawrth (08/07/25).
Bydd cyllid Llywodraeth y DU, sy’n amodol ar achos busnes terfynol, yn helpu i ddiogelu dyfodol Venue Cymru, y gwasanaeth llyfrgell a chanolfannau croeso yn ogystal â chreu canolfan ddiwylliannol i gymunedau Llandudno a thu hwnt.
Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i foderneiddio isadeiledd technegol y theatr; i osod seddi newydd a system trin aer yn yr awditoriwm, yn ogystal â sefydlu canolfan ddiwylliannol gynhwysol a hygyrch i wasanaethu’r gymuned leol, defnyddwyr y llyfrgell, ymwelwyr, gweithwyr proffesiynol diwylliannol a chwsmeriaid y theatr yn well.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy: “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r buddsoddiad hwn yn Venue Cymru, oherwydd bydd y prosiect yn rhoi hwb i’r economi leol.
“Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnal a chreu swyddi yn y tymor byr ac yn helpu i ddiogelu a thyfu swyddi yn y dyfodol, drwy wneud arbedion cost yn ogystal â gwella’r cyfleuster.
“Bydd yn rhoi gwell mynediad at y celfyddydau a diwylliant, i gyd o dan yr un to, ond yr un mor bwysig â hyn, bydd yn helpu i gynnal Venue Cymru, sy’n lleoliad annwyl iawn i ni, y Gwasanaeth Llyfrgell a Chanolfannau Croeso, er budd ein holl breswylwyr ac ymwelwyr.”
Fel rhan o’r prosiect, mae’r Cyngor yn cynnig symud Llyfrgell Llandudno a’r Ganolfan Groeso i Venue Cymru. Bydd hyn yn darparu gofod hygyrch ar y llawr gwaelod; gan gynnig gwell gwasanaethau ac oriau agor hwy i’r gymuned ehangach.
Gyda thua 200 o berfformiadau a 800 o gynadleddau a digwyddiadau, mae Venue Cymru yn cynhyrchu tua £38 miliwn o fudd economaidd i economi’r rhanbarth bob blwyddyn.
Bydd y broses o ail-ddylunio yn helpu i ddiogelu’r llyfrgell ardal a lle Venue Cymru fel prif gyrchfan diwylliant a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru yn ogystal ag arbed tua £100,000 o gostau bob blwyddyn.
“Hoffwn ddiolch i bob un o’m cyd-gynghorwyr am eu cyfraniadau i’r trafodaethau yn y Cabinet a’r Pwyllgor Craffu” dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey.
“Rydw i’n credu bod pob un ohonom yn deall bod llyfrgelloedd a Chanolfannau Croeso’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn gan ein cymunedau. Mae cynghorau ar hyd a lled y Du yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ond rydym yn cymryd camau i ddiogelu a moderneiddio gwasanaethau llyfrgell yng Nghonwy a dod â nhw’n nes at y celfyddydau a diwylliant.”
Mae’r Achos Busnes drafft ar gyfer cyllid wedi’i gyflwyno i Lywodraeth y DU.
Bydd modd gweld y cynlluniau ar gyfer prosiect Dyfodol Venue Cymru yn Venue Cymru, y Ganolfan Groeso a Llyfrgell Llandudno dros y misoedd nesaf.
Wedi ei bostio ar 09/07/2025