Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Care and support in North Wales – complete the survey

Gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru – llenwch yr arolwg


Summary (optional)
start content

Gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru – llenwch yr arolwg

NWRPB Population Needs Assessment

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ceisio eich barn fel rhan o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.

Mae’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth yn darparu gwybodaeth am anghenion gofal a chymorth pobl yng ngogledd Cymru ac anghenion cymorth gofalwyr. Caiff ei ddefnyddio er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau ac i bennu blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth.

Gallwch ddarparu gwybodaeth am eich profiadau o wasanaethau gofal a chymorth yng ngogledd Cymru a sut y gallem eu gwella.

P’un a oes gennych syniadau’n seiliedig ar eich profiadau eich hun, eich bod yn y gweithio yn y sector, neu’ch bod yn rhan o sefydliad gwirfoddol neu gymunedol, rydym ni’n awyddus i glywed eich syniadau chi.

Mae’r arolwg ar-lein ar agor bob amser, nid oes dyddiad cau, felly gallwch rannu eich syniadau ar unrhyw adeg.

Gallwch roi gwybodaeth am y canlynol:

  • Eich profiadau eich hun o wasanaethau gofal a chymorth
  • Beth sy’n gweithio’n dda, yn eich barn chi (yma neu mewn mannau eraill)
  • Syniadau’n ymwneud â gwella neu ailgynllunio gwasanaethau
  • Syniadau newydd neu ysbrydoliaeth – pryd bynnag y byddant yn codi

Bydd yr holl adborth yn helpu i lywio gwaith rhanbarthol a chaiff ei ddefnyddio fel rhan o adolygiad parhaus o’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth.

Llenwch yr arolwg yma: Gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru – dywedwch wrthym beth sy’n bwysig

 

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio i gefnogi lles pobl o bob oed ar hyd a lled gogledd Cymru. Mae’r partneriaid yn cynnwys y chwe Awdurdod Lleol yng ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid statudol a gwirfoddol eraill, gan gynnwys gwasanaethau tai, yr heddlu a’r gwasanaeth tân. I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ewch i: https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/bwrdd-partneriaeth-rhanbarthol-gogledd-cymru/

Wedi ei bostio ar 06/02/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content