Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025

Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025


Summary (optional)
start content

Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid 2025.

Mae'r wythnos yn gyfle i ddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Rhwng 23 - 30 Mehefin, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau a dathliadau  yn ogystal â’r cannoedd o weithgareddau, prosiectau a mentrau sy’n digwydd fel arfer bob wythnos.  

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn, “Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle gwych i ni gyfnewid arferion gorau gyda gweithwyr ieuenctid ar hyd y wlad ac ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am yr ystod o weithgareddau sydd ar gael iddynt ledled Bwrdeistref Sirol Conwy.

“Dewch draw i unrhyw un o’n sesiynau i weld sut rydym ni’n dathlu eleni. Mae popeth am ddim, felly dewch draw i ymuno yn y dathlu!”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy yn nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid gydag ystod o wasanaethau, o brosiectau celf a chrefft, garddio a sesiynau lles, i weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd, mae rhywbeth at ddant pawb!

Peidiwch â cholli cyfle i gysylltu gyda ni ac eraill, cael hwyl a dathlu pwysigrwydd gwaith ieuenctid yn ein cymuned.

Os ydych chi rhwng 11–25 oed ac yn chwilio am rywbeth diddorol a hwyliog i’w wneud, ewch i www.facebook.com/GIConwyYS i gael mwy o wybodaeth.

Wedi ei bostio ar 24/06/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content