Dathlu Ailagor Colonâd Hanesyddol Llandudno

Colonâd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gyhoeddi dathliad arbennig i ailagor Colonâd Llandudno, yn dilyn rhaglen adfer i ddiogelu a gwella’r tirnod hanesyddol a phoblogaidd yma.
Diolch i gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, mae gwaith ailwampio mawr wedi’i wneud i’r isadeiledd.
I nodi diwedd y gwaith, bydd dathliad cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Gwener 20 Mawrth o 4pm tan 6pm ger y Colonâd ar bier Llandudno.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys seremoni torri’r rhuban gyda gwahoddedigion, ac yna adloniant gan berfformwyr lleol, yn cynnwys Dave Sharp, Ysgol Ddawns Linzi Grace a Band Swing Llandudno. I gydnabod treftadaeth 1930au’r Colonâd mae croeso i bawb wisgo gwisg smart steil y 1930au, gan adlewyrchu cyfnod a hanes y safle.
Mae Colonâd Llandudno wedi bod yn nodwedd amlwg o’r promenâd ers ei godi yn y 1930au. Mae’r gwaith diweddar wedi’i wneud i ddiogelu cymeriad y tirnod ac i wella diogelwch a hygyrchedd, ac i sicrhau bod preswylwyr ac ymwelwyr yn gallu mwynhau’r Colonâd am genedlaethau i ddod. Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Mostyn Estates drwy gydol y prosiect er mwyn diogelu cymeriad hanesyddol y Colonâd.
Meddai’r Cyng. Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Mae’r Colonâd yn rhan bwysig o dreftadaeth a hunaniaeth Llandudno, a dwi’n falch o’i weld yn cael ei adfer i’w hen ogoniant.
“Mae’r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y trysor hwn yn cael ei fwynhau gan bobl am flynyddoedd i ddod, a dwi’n edrych ymlaen at ddathlu’r ailagoriad gyda’r gymuned. Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r prosiect.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Rydym yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i’n cymunedau trwy fuddsoddi er mwyn creu lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddynt.
“Yn ogystal â buddsoddi er mwyn adfer y Colonâd, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £20 miliwn i Landudno fel rhan o’r rhaglen Balchder Bro newydd i ysgogi adfywio a chreu swyddi a thwf yn yr ardal.”
Mae’r dathliad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb, gan roi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr ddod at ei gilydd a dathlu dyfodol newydd y tirnod hanesyddol hwn.
Bydd gorchymyn cau ffordd byr, dros dro ar waith ar Alex Munro Way o 11:00am tan 7:00pm er mwyn gosod popeth yn ei le a chynnal y digwyddiad yn ddiogel.
Manylion y digwyddiad:
- Lleoliad: Colonâd Llandudno
- Dyddiad: Dydd Gwener 20 Mawrth 2026
- Amser: 4:00pm–6:00pm
- Gwisg: Mae croeso i chi wisgo gwisg smart steil y 1930au
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: twristiaeth@conwy.gov.uk
Nodyn gan y Golygydd: Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru: Bwriad cronfa’r Pethau Pwysig yw galluogi gwelliannau bach a sylfaenol i isadeiledd ymwelwyr hanfodol mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ar draws Cymru, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiadau cadarnhaol a chofiadwy ym mhob agwedd ar eu harhosiad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://diwydiant.croeso.cymru/cy/cefnogi-chi/gwybodaeth-chyngor-gyllid-ar-gael-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth
Wedi ei bostio ar 12/03/2026