Cronfa Cydlyniant Cymunedol 2025 ar agor ar gyfer ceisiadau

Cronfa Cydlyniant Cymunedol 2025
Mae gan Gronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru gyfle i fudiadau wneud cais am gyllid rhwng £500 a £5,000 i sicrhau bod elfennau o Gydlyniant Cymunedol yn cael eu gwreiddio ym mhob cymuned.
Croesewir ceisiadau am ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chymunedau at ei gilydd gan sefydliadau yng Nghonwy, Ynys Môn neu Wynedd.
Bydd y gronfa yn cael ei gweinyddu gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru.
Mae pecynnau cais a gwybodaeth ar gael tan 13 Mehefin 2025 drwy ebostio cydlyniantcymunedol@ynysmon.llyw.cymru
Wedi ei bostio ar 23/05/2025